LEAF nawr yn Sir Gaerfyrddin!
Written by Tir Coed / Dydd Gwener 25 Ionawr 2019
Mae ail flwyddyn prosiect LEAF wedi cychwyn yng Ngheredigion, Sir Benfro a Powys, ac mae’r flwyddyn datblygiad yn Sir Gaerfyrddin wedi dechrau. Bydd Nancy, sydd yn gweithio ar y prosiect yn Sir Benfro, yn gyfrifol am gynnal arolwg yn y sir. Fe fydd hyn yn cynnwys adeiladu cysylltiadau efo tirfeddianwyr posibl, tiwtoriaid, asiantaethau cyfeirio a sefydliadau partneriaeth. Hefyd, fe fydd hi yn darganfod beth sydd yn mynd ymlaen yn y sir yn barod, i sicrhau fod gwaith dyfodol Tir Coed yn ategu'r ddarpariaeth bresennol yn hytrach na dyblygu.
Bydd Nancy yn gweithio yn CAVS (Carmarthenshire Association of Voluntary Services) yng Nghaerfyrddin un diwrnod yr wythnos. Bydd hyn yn siawns gwych i rwydweithio gan fod CAVS yn cydweithio efo rhan fwyaf o’r trydydd sector yn y sir a byddan nhw yn helpu i roi gwybodaeth allan am y prosiect. Mae sefydliadau eraill fel Gweithredai Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru hefyd wedi'u yn yr adeilad sy'n cynnig cyfle pellach i weithio mewn partneriaeth efo nhw.
Mae gan Nancy brofiad o weithio yn y sir ar ôl treulio 2 flynedd yn gweithio i’r Adran Addysg Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Dwi’n edrych ymlaen at weithio o fewn y sir ces fy magu ynddi a dwi’n edrych ymlaen at ailgysylltu â phobl wahanol yr wyf wedi gweithio efo o'r blaen! Mae'r syniad o ddod â phrosiect arbennig LEAF i Sir Gaerfyrddin yn gyffrous iawn!
Os ydych eisiau cysylltu â Nancy am ein gwaith yn Sir Gaerfyrddin, gallwch e-bostio hi ar [email protected]