Llanerchaeron - Rheolaeth Coetir Cynaliadwy
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 06 Tachwedd 2018
Yng Ngheredigion mae’r cwrs 12 wythnos mewn Rheolaeth Coetir Cynaliadwy hanner ffordd, sy’n cael ei gynnal yng nghoedwig hyfryd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron, ger Aberaeron. Mae’r cwrs yn ffocysu ar dasgau ac ymarferion reolaeth coetir cynaliadwy ac yn cyflwyno’r hyfforddeion i waith torri brysglwyni gan ddefnyddio offer llaw draddodiadol.
Mae Aron Roberts, ceidwad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gyfrifol am y coetiroedd wedi bod yn gefnogol iawn yn galluogi’r bartneriaeth gadarnhaol i ffynnu er lles y coetir a’i bioamrywiaeth, yr hyfforddeion a’r cyhoedd sy’n defnyddio’r lleoliad.
Gan ei fod yn safle newydd i Tir Coed, mae’r hyfforddeion wedi bod yn treulio tipyn o amser yn gosod camp, yn creu meinciau iddynt orffwys rhwng y gwaith caled. Yn anffodus, nid yw’r tywydd wedi bod yn ffafriol gyda monsŵn a glaw trwm, mae hyn wedi arwain at dipyn o waith theori a llai o waith ymarferol nag oeddwn wedi gobeithio. Wrth symud ymlaen mi fydd yn grŵp yn parhau i wneud gwaith teneuo a thorri brysglwyni.
Tiwtoriaid y cwrs yw Wil Nickson a Cath Rigler ac mae 11 o hyfforddai ar y cwrs, sy’n dysgu am adnabod rhywogaethau gwahanol o goed, yr amryw o haenau’r goedwig a’r ffyrdd gwahanol ymarferion rheoli. Mae’r 11 hyfforddai yn gymysgedd neis o unigolion sy’n ac yn creu grŵp cyfeillgar iawn.