Mae Simon yn edrych ymlaen yn eiddgar i fynd i’r coed

Written by Tir Coed / Dydd Llun 25 Ionawr 2021

Simon ydw i, Cydlynydd newydd Tir Coed yng Ngheredigion!

Rwy'n gyffrous iawn i ddechrau fy swydd a chydlynu'r holl ddigwyddiadau gwych y mae Tir Coed yn eu cynnig.

Ar ôl gweithio yn y celfyddydau am y degawd diwethaf, rwy'n edrych ymlaen at ddechrau newydd yn cysylltu'r gymuned â choetiroedd.

Rwy'n berchen ar ychydig erwau o goetir ger Aberystwyth ac wedi mynd ati fy hun i ddysgu sut i reoli coetir. Rwyf wedi cymryd at waith coed gwyrdd, strwythurau pren a gerddi coedwig.


Pan nad ydw i'n gweithio yn y swyddfa (neu gartref ar hyn o bryd!) neu yn y coed, rwy'n gweithio fel plastrwr treftadaeth ac ecogyfeillgar, gan weithio gyda phlaster naturiol fel calch a chlai.

Yn fy amser hamdden rwy'n mwynhau creu cerddoriaeth (rwy’n rhan o ddeuawd electronig, Unplyg) a cherdded ar hyd y bryniau yn chwilio am safleoedd hanesyddol.

Mae gan y coetir allu unigryw i lonyddu rhywun ac mae hynny yn ei dro yn golygu ei fod yn lle gwych i weld pethau mewn persbectif, prosesu meddyliau a thanio'r dychymyg - profiad rwy'n gobeithio y bydd cyfranogwyr sy'n mynychu ein digwyddiadau a'n cyrsiau hefyd yn ei gael tra byddan nhw ar safleoedd Tir Coed.

Hoff goeden? Y Dderwen fawreddog!

Hoff bren i weithio ag ef? Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda choed ffrwythau. Mae gan bren ceirios raen hardd ar gyfer llwyau a darnau addurnol. Coed cyll gan eu bod yn addas i wneud llawer o bethau a choed castan ar gyfer adeiladu.

Hoff goetir? Mae coedwigoedd Tŷ Canol ym mynyddoedd Preseli gyda’r gorau yn fy marn i!

Hoff Dymor? Hydref. Y ffrwydrad o liwiau, y dail yn disgyn, y nosweithiau'n tynnu i mewn a'r golau hyfryd ar fore hydref ffres.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed