Nodi hanner ffordd yng nghwrs hyfforddi Tir Coed yn Sir Benfro

Written by Tir Coed / Dydd Llun 19 Gorffennaf 2021

Wrth i ni fynd heibio’r pwynt hanner ffordd yn Sir Benfro a hithau wedi bod yn dywydd braf (gan fwyaf), mae ein hyfforddeion yn parhau i ddysgu gwybodaeth a sgiliau newydd wrth iddynt weithio tuag at eu hachrediad Agored.

O sgiliau ymarferol yn yr awyr agored, megis gwneud tân ac adeiladu cysgod, i waith coed yn y goedwig, mae pob un ohonynt wedi rhoi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau yn ystod y cwrs hyd yma.


Rydym ni hefyd wedi cael arddangosiadau ymarferol gan ein gwesteiwr gwych yn y goedwig, sef Jerry, sy’n berchen ar Goedwig De Scolton, gan gynnwys sut i ddefnyddio llif gadwyn a winsh i ddod â choed i lawr yn ddiogel.

Mae ein llyfrau gwaith digidol newydd hefyd wedi cynnig cyfle i’r hyfforddeion ddysgu ymhellach, gan hefyd wella eu sgiliau digidol. Mae’r llyfrau gwaith yn gweithredu fel cofnod o’r gwaith y maen nhw wedi’i wneud yn ystod y cwrs, a gan eu bod yn gwbl ddigidol, gallant bellach gynnwys lluniau, clipiau sain a fideo.


Nid dim ond gwaith caled sydd wedi bod yn cymryd lle, serch hynny, ac un o’r pethau gorau yr ydym ni wedi’i ddarganfod yn ystod y cwrs yw eich bod chi’n gallu dweud yr amser yn seiliedig ar symudiad yr haul sy’n disgleirio i’r tŷ crwn drwy’r twll mwg yn y to (ar ddiwrnod braf). Rydym ni wedi bod yn marcio’r smotyn ar yr awr er mwyn gallu creu ein deial haul ein hunain. Yn y llun, gallwch weld ei bod hi’n 3pm felly mae pob un ohonom yn gwybod ei bod hi’n amser paned.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed