Gweithgareddau Lliwio a Chrefft Naturiol
Written by Tir Coed / Dydd Gwener 11 Hydref 2019
Casglodd y grŵp ddeunyddiau naturiol o'r coed, y byddent yn eu torri, eu pwlpio a'u berwi i wneud enfys o liwiau naturiol. Fe wnaethant greu gwialen i chwythu swigod anferth wrth aros am y gwlân a oedd yn socian yn y potiau o wahanol liwiau.
Fe wnaethant ddysgu sgiliau diffodd tân a choginio ar y tân tra bod y gwlân a'r lliwiau'n sychu, yna wnaethant wneud dalwyr breuddwydion lliwgar, cymdeithasu a chwarae gemau. Fe wnaethant i gyd fwynhau’r diwrnod gwych.

