Dechrau newydd a ffrindiau newydd yng Nghwm Elan
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 15 Mehefin 2021
Roedd 13 Ebrill yn ddyddiad a fydd yn aros yn fy nghof. Dyma’r dyddiad yr oedd modd i ni ddechrau derbyn ceisiadau ar gyfer ein cwrs hyfforddi 12 wythnos cyntaf ers Covid.
Wrth i mi gyhoeddi’r newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol, roedd cymaint o gwestiynau’n mynd drwy fy meddwl: A fydd yn rhaid i ni ganslo? A fydden ni’n cael digon o ymgeiswyr? Sut fydd cwrs sy’n ddiogel o ran Covid yn teimlo?
Fe wnes i sylweddoli’n fuan iawn nad oedd yn rhaid i mi boeni am nifer yr ymgeiswyr - fe wnaethom ni dreulio’r diwrnod canlynol yn ymateb i ymholiadau gan unigolion ac asiantaethau cyfeirio.
Gyda’i gilydd, cawsom 24 o geisiadau am le ar y cwrs. Roedd hi bron yn amhosibl dod â’r niferoedd i lawr i chwech, felly fe wnaethon ni roi lle i saith.
Roedd y cwrs yn newydd mewn sawl ffordd. Dyma’r cwrs cyntaf a fyddai’n cael ei gynnal gan ein Harweinwyr Gweithgareddau newydd, Vic ac Iona; a hefyd, dyma’r cwrs cyntaf a fyddai’n defnyddio’r Cwrs Tir Coed newydd ac yn gyfle i beilota’r gwerslyfrau digidol.
Ddydd Mercher 5 Mai, cyrhaeddodd chwech o’r saith hyfforddai i Gwm Elan (byddai’r seithfed hyfforddai’n dechrau’r cwrs yn yr wythnos ganlynol).
Gyda rhaglen lawn, dechreuodd y diwrnod cyntaf gyda chyflwyniadau, gwaith papur ac yna sesiwn sydyn yn ymwneud â defnyddio offer yn ddiogel. Treuliwyd y prynhawn yn gwneud sbatwla bob un.
Fe aeth pob un ohonom adref y noson honno’n llawn blinder bodlon sy’n deillio o wneud diwrnod o waith da.
Edrychwn ymlaen at y 12 wythnos nesaf o waith coed a chyfeillgarwch.