Tymor Newydd - Swyddogion Addysg Newydd
Written by Tir Coed / Dydd Iau 27 Medi 2018
Ar ddechrau tymor ysgol newydd, mae prosiect Dysgu am Goed yn hapus i gyflwyno ein Swyddogion Addysg newydd fydd yn cynnal sesiynau gydag ysgolion cynradd ar draws Ceredigion.
Al Prichard:
Dyma Al, ein Swyddog Addysg Gogledd Ceredigion. Efallai bod rhai ohonoch yn gyfarwydd ag Al gan ei fod wedi gweithio gyda Tir Coed yn y gorffennol fel tiwtor cefnogol. Mae Al yn angerddol dros wyddoniaeth a mathemateg ac mi fydd yn defnyddio’i wybodaeth a’i brofiadau wrth gyflwyno’r sesiynau Dysgu am Goed.
Jemima Roberts:
Dyma Jemima, ein Swyddog Addysg De Ceredigion. Mae Jemima’n greadigol iawn ac ag angerdd i gyflwyno sesiynau ysbrydoledig ac atyniadol i blant am amgylcheddoliaeth a chadwraeth. Mae hi wedi cynnal nifer o weithgareddau gydag ysgolion yn y gorffennol yn yr ysgol, ac allan ‘ar leoliad’.
Cyn y gwyliau, fe wnaeth Dysgu am Goed ymgysylltu â 8 ysgol oedd yn gyfanswm o 212 o blant a 25 o oedolion.
Gyda’r ddau Swyddog Addysg yn frwdfrydig i ddechrau ar y gwaith o gynnal sesiynau ar draws Ceredigion, mae nifer o ysgolion yn achub ar y cyfle i archebu sesiynau tra bod yr haul yn dal i ddisgleirio.
Os hoffech hi achub ar y cyfle, cofiwch gysylltu â’n Swyddog Datblygu ar [email protected]