Ymweliad Northfield Ecocentre â Chwm Elan

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 30 Mai 2018

Yn ystod hanner tymor Sulgwyn, roedd Cwm Elan yn llawn gweithgareddau. Yn ogystal ag encil dros nos o Firmingham, daeth Northfield Ecocentre, grŵp o tua 12 o blant a 4 gwirfoddolwr i fwynhau gweithgareddau gyda’r tiwtoriaid Polly a Gavin.

Fe wnaeth y grŵp fwynhau nifer o weithgareddau yn ystod eu hamser yng Nghwm Elan/ Dechreuwyd drwy geisio cynnau tân cyn symud ymlaen i wneud tost a phopcorn o gwmpas y tân. Ar ôl iddynt orffen eu bwyd, symudwyd ymlaen i wneud eitemau o grefft iddynt fynd adref.

Gan fod y safle wedi’i leoli get yr afon, fe aeth Polly a Gavin a’r plant i lawr at yr afon i edrych ar y rhywogaethau gwahanol y gallant ddod o hyd iddynt, fe wnaeth Polly hefyd esbonio bod y dŵr oedd yn rhedeg heibio'r un dŵr ag oedd y plant yn ei yfed adref.


Ar ôl gorffen eu heitemau, rhoddwyd tasg i’r grŵp i ddod o hyd i nifer o eitemau naturiol gwahanol yn eu grwpiau llai. Fe wnaeth y grŵp fwynhau hwn yn fawr ac fe wnaaethant fwynhau cystadlu yn erbyn ei gilydd gyda’r aelodau hŷn yn helpu’r aelodau iau.


Cyn mynd ati i rostio malws melys wrth y tân a gwneud eu ffordd yn ôl i Firmingham, fe chwaraeodd y grŵp nifer o gemau llawn hwyl.


Gwnaed y gweithgaredd hwn yn bosib drwy bartneriaeth Tir Coed gydag Elan Links: Pobl Natur a Dŵr a’r prosiect Encilion Birmingham.

       

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed