Sioe Sir Benfro 2018
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 21 Awst 2018
Wythnos diwethaf roeddwn ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r dyddiad mwyaf yng nghalendar Sir Benfro, sioe’r sir. Am dridiau caethom gyfle i weld y gorau o’r hyn sydd gan gymuned cefn gwlad y sir i’w gynnig. O foron, i gamelod, blodau i reidiau’r ffair, roedd rhywbeth i bawb.
I ni, roedd yn gyfle i ni gwrdd â phobl newydd a cyflwyno Tir Coed a’r prosiect LEAF. Fe wnaeth rhai ymwelwyr stopio i siarad gyda ni am yr hyn oedd gennym i’w gynnig ac fe wnaeth eraill greu creadur y goedwig i fynd adref gyda’n nhw. Roedd hefyd yn gyfle i wneud cysylltiadau gyda sefydliadau eraill yn Sir Benfro, fel ein cymdogion yn y padog cefn gwlad; Bella y gwenynwraig a Nathon o’r Ymddiriedolaeth Natur.
Roedd stondyn Tir Coed wedi’i leoli’n dda yn Padog Cefn Gwlad Velero oedd yn golygu bod gennym sedd ochr llwyfan o’r cylch ar gyfer yr amryw o arddangosfeydd oedd yn digwydd yno. Hebogyddiaeth Sir Benfro, Simon o Ferretworld a’r Dynion Bwyell (Axe Men) oedd yr uchafbwyntiau.
Diolch i Roger a’r tîm am y gwaith caled a roddwyd tuag at y trefnu a’i wneud yn ddigwyddiad y gwnaethom fwynhau.