Sir Benfro - Hanner Ffordd

Written by Tir Coed / Dydd Iau 08 Tachwedd 2018

Ar ddiwedd diwrnod prysur, fe wnes i ac Adam o gwmpas y tân gyda’r tiwtoriaid Richard a Ben am sgwrs. Dros baned, fe wnaethom drafod sut oedd y cwrs yn mynd ac fe ddywedon nhw wrthym eu bod wedi ychwanegu ychydig o bethau at y cwrs yr oedd y grŵp wedi’i fwynhau’n fawr.

Unwaith iddynt osod camp yn y Woodland Farm, y dasg gyntaf gyda’i gilydd oedd dylunio ac adeiladu llwybr bwrdd er mwyn gwella’r mynediad i’r safle. Gan ddefnyddio planciau derw o ffynhonnell leol, fe weithiodd yr hyfforddeion gyda’i gilydd i lunio ac adeiladu ramp i mewn i’r camp. Golyga hyn gall amrywiaeth eang o bobl ddefnyddio’r cylch derw ar gyfer gweithgareddau’r dyfodol.


Mae’r safle wedi bod yn berffaith ar gyfer cyflwyno’r hyfforddeion i amrywiaeth o fflora a ffawna. Mae’r grŵp wedi gweithio’n galed i glirio’r draen i ddatgelu glasbrennau hunan-hadu ar lawr y coetir. Mae pawb hefyd yn gwybod y gwahaniaeth rhwng llyffant a broga erbyn hyn ar ôl i’r ddau ymweld â’r safle.


Mae’r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yn hyn yn dod at ei gilydd yn dda. Mae llwybrau newydd drwy’r coetir wedi bod yn ymddangos ac y mae ardaloedd wedi’u teneuo i’w gwneud yn haws i gael mynediad. Yn ogystal â gwella’r coetir, mae’r grŵp wedi rhoi cynnig ar weithgareddau newydd fel naddu a chreu powlenni llosg. Dywedodd Ben wrthym fod y grŵp wedi mwynhau gwrando ar y farddoniaeth â chysylltiad i fyd natur y mae wedi bod yn rhannu gyda nhw. Mae’r grŵp hyd yn oed wedi dod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio’r planhigion y maent wedi’u tynnu drwy wau basgedi o ddraen.


Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno ag un o'r cyrsiau yn Sir Benfro, cysylltwch â Nancy, Mentor Sir Benfro: [email protected]

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed