Croeso i'r Goedwig, Sir Benfro
Written by Tir Coed / Dydd Iau 12 Gorffennaf 2018
Mae tîm Sir Benfro newydd gwblhau cwrs ‘Croeso i’r Goedwig’ llwyddiannus a phleserus. Roedd y cwrs wedi’i anelu at gyfranogwyr rhwng 16 a 24 ac yn flas ar waith coed irlas a gweithio yn y coetir.


Cynhaliwyd y cwrs yng Ngholeg Coppicewood, Cilgerran dan arweiniad brwdfrydig Claire Turner a Tracey Styles. Yn ystod y cwrs dysgodd y cyfranogwyr am ddefnydd coed a rheoli coetir, gwaith coed irlas, defnydd diogel o offer a’r llawenydd o weithio fel rhan o dîm yn y goedwig. Gwnaethant achub ar y cyfle i wneud golosg, o gasglu a pharatoi’r coed, rheoli’r llosgi i osod y golosg mewn bagiau ar ôl iddo oeri. Roedd cymysgedd o gyfranogwyr yn nhermau gallu a phrofiad ond fe wnaeth pawb orffen y cwrs gyda gwên ar eu hwynebau a chadair 3 neu 4 coes,
defnyddiwyd nifer o offer a thechnegau gwahanol i’w greu. Cafodd bawb dystysgrif ac adborth unigol i roi hwb i’w CV hefyd.


Dywedodd nifer o’r cyfranogwyr faint yr oeddent wedi mwynhau creu ffrindiau newydd ac ennill gwybodaeth a sgiliau newydd, ac roedd nifer yn awyddus i ddod o hyd i ffyrdd o wneud mwy. Dywedodd un cyfranogwr:
Rwy’n teimlo fy mod wedi ennill peth hyder ac ysbrydoliaeth.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am gyrsiau Tir Coed yn Sir Benfro yn y dyfodol, cysylltwch â Mentor Sir Benfro ar [email protected]