Prosiect Mainc Atgofion Powys

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 02 Mehefin 2021

Yntydi’n rhyfeddol sut mae ffawd yn gwneud i gynllun ddisgyn i’w le?

Ar ymweliad â Safle gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y gwelais i’r meinciau atgofion cyntaf a meddwl eu bod yn syniad gwych.  Mae’r prosiect yn galluogi gofalwyr a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt i gerfio eu hatgofion o Gwm Elan a’r awyr agored ar feinciau sydd wedyn yn cael eu selio i greu teyrnged barhaol.

Roeddwn yn arbennig o awyddus i redeg y prosiect hwn ar ôl i’m tad gael diagnosis dementia, ac rwy’n gobeithio, trwy gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn, y bydd yn rhoi cyfle i bobl greu atgofion cadarnhaol i’w dwyn i gof.

Ar ôl i mi esbonio’r cysyniad, roedd Anna, y trefnydd sirol, yn barod iawn i mi weithio ar geisiadau am gyllid i ariannu’r prosiect.

Yna fe ddaeth Covid ac fe wnaeth y cyfnod clo i’r holl syniad ymddangos fel breuddwyd wag.

Dewch ymlaen i Ragfyr 2020 a’r newyddion cyffrous bod fy nghais am arian wedi bod yn llwyddiannus ac roedd y prosiect yn mynd i ddigwydd.  A dyna lle mae ffawd yn dod i’r stori, fe gawsom y newyddion hefyd bod coed ynn aeddfed ar Stad Elan i gael eu torri. Arweiniodd taith i weld Ymddiriedolaeth Elan at eu penderfyniad caredig i roi’r coed oedd arnom eu hangen ar gyfer y prosiect.


Ar 1 Ebrill yr aeth y coed i’r felin lifio ac ymunodd y cwmni newydd lleol, ‘Made By Hand’, â ni yng Nghwm Elan i lifio’r coed yr oeddem wedi eu dethol. 

Ar ôl dechrau araf wrth osod eu Melin Alascaidd, o’r diwedd roeddem yn mynd ar garlam a chafwyd 18 ystyllen o dri darn o onnen. Roedd pob slab gwyrdd yn pwyso rhwng 70-90kg ac roeddem yn ddiolchgar dros ben i Anna, Phil, Darrel a rhai o breswylwyr y pentref am eu help yn eu symud.

Rwy’n falch iawn o ddweud y byddwn yn cynnal ein dyddiau cerfio ddiwedd Gorffennaf a dechrau Awst, felly cysylltwch â mi drwy e-bostio [email protected] os ydych yn adnabod rhywun a fyddai’n cael budd o gymryd rhan yn y prosiect hwn.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed