Hyfforddeion Powys yn twymo pethau mewn popty hynafol wrth i’r haul ddechrau tywynnu
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 19 Gorffennaf 2022
Mae tîm Powys wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar ac maent wedi cwblhau hanner eu cwrs Gwaith Saer Coetir 12 wythnos.
Mae’r hyfforddeion wedi adeiladu popty pridd – popty clai cyntefig a ddefnyddir ers cyfnodau hynafol mewn amser gan ddiwylliannau a chymdeithasau amrywiol ar gyfer pobi.
Mae’r popty nawr yn cael ei wirio a’i brofi am graciau wrth iddo sychu cyn cael ei ddefnyddio i fwydo cyfranogwyr llwglyd Tir Coed.
Hefyd, mae’r hyfforddeion wedi defnyddio amryw o offerynnau llaw i greu bwrdd a meinciau o goeden onnen a gafodd ei thorri i lawr yn y pentref oherwydd clwy lladdwr yr ynn.
Ar hyn o bryd mae gennym ni saith hyfforddai yn cymryd rhan yn y cwrs. Maen nhw wedi dod i adnabod ei gilydd ac maen nhw’n gweithio’n dda iawn gyda’i gilydd fel tîm. Rydym hefyd yn falch iawn o weld pob unigolyn yn dod yn fwy hyderus wrth weithio gydag offer a bod yng nghwmni pobl eraill.
O ganlyniad i’r tywydd gwael ar ddechrau’r cwrs, roedd yn rhaid i ni gyflawni llawer o’r gwaith yn yr ysgubor, gan rannu’r gofod gyda dau oen newydd.
Mae treulio amser yng nghwmni’r anifeiliaid hyfryd hyn wedi gwella dealltwriaeth yr hyfforddeion o fywyd fferm.
Gyda’r haul nawr yn tywynnu a’r haf yn ôl ar y trywydd iawn, rydym i gyd yn falch iawn o allu dychwelyd i weithio yn yr awyr agored unwaith eto.