Powys yn ffarwelio â chwrs 12 wythnos arall!
Written by Tir Coed / Dydd Llun 29 Ebrill 2019
Mae’r cwrs 12 wythnos gyntaf yn 2019 wedi dod i ben, dechreuodd 11 o hyfforddeion y cwrs gan weithio drwy bob tywydd - eira, eirlaw, glaw a'r mis Chwefror poethaf a gofnodwyd! Yn cwmpasu oedran o 50 mlynedd, daeth pob hyfforddai â sgiliau bywyd a phrofiad gwahanol i'r cwrs. Dros y 12 wythnos, yn ogystal â dysgu'r sgil sydd ei hangen i ennill Achrediad Agored Cymru, bu'r grŵp hefyd yn cymryd rhan mewn taith o gwmpas yr ystâd, gan fentro i mewn i un o'r argaeau, a gweld yr offer prosesu pren hanesyddol yn dal mewn lleoliad ar yr ystâd . Yr oedd y tiwtor anhygoel, Phil wedi ysbrydoli pawb!
Dros y 12 wythnos, tyfodd cyfeillgarwch ac esblygodd yr hyfforddai i fod yn dîm, gan weithio er mwyn cwblhau'r dasg a osodwyd gan Phil a Dave. Plannwyd coed derw, gosodwyd gwrych o amgylch swyddfa'r ystâd, crëwyd clwydi helyg, cliriwyd llwybrau a chwympwyd coed yn fwy detholus. Cronnodd hyn mewn 10 portffolio a 10 o hyfforddai cymwys yn barod i barhau ar eu taith.
Ar ddiwrnod olaf y cwrs, fe wnaethom ddathlu llwyddiannau'r hyfforddai, gyda pitsa wedi'i goginio ar y BBQ, a chyflwyniad o Dystysgrifau gan Brif Weithredwr Tir Coed Ffion Farnell, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cwm Elan, Dr Ieuan Joyce, Rheolwr Cynllun Elan Links Eluned Lewis. Er bod y cwrs wedi dod i ben, nid yw taith yr hyfforddai gyda Tir Coed ar ben, bydd rhai yn ymuno â ni ar hyfforddiant pellach, bydd rhai yn gwirfoddoli gyda Phrosiect Elan Links a bydd pob un yn parhau i fod yn rhan o deulu Tir Coed.