Cwrs Dilyniant yn camu’n ôl mewn amser i archwilio hanes hynafol
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 05 Ebrill 2022
Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yng Nghwrs Dilyniant Crefft Treftadaeth Tir Coed yng Nghwm Elan wedi cael cyfle i gamu’n ôl mewn hanes ac ail-greu offer gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a ysbrydolwyd gan arteffactau hynafol go iawn a gafodd eu darganfod yn yr ardal.
Dan arweiniad arbenigol yr Arweinydd Gweithgareddau Vic Pardoe, mae’r hyfforddeion wedi bod yn cymysgu copr a thun i gynhyrchu efydd, sef un o’r metelau cyntaf yr ydym yn gwybod amdano. Maent hefyd wedi bod yn paratoi castiau ac wedi bod yn creu bwyeill wrth ddysgu am wreiddiau’r deunyddiau ac am hanes y dirwedd a’r mwyngloddiau.
Mae pennau bwyeill o’r Oes Efydd sy’n dyddio yn ôl dros 4,500 o flynyddoedd wedi’u darganfod ar amryw safleoedd ar hyd Cwm Elan ac mae mwyfwy o safleoedd yn cael eu darganfod o hyd.
“Mae wedi bod yn gwrs gwych,” meddai Jenny o Ben-y-bont. “Rydw i wedi dysgu ystod o sgiliau newydd a’r holl fanylion hanesyddol y tu ôl i’r hyn rydym yn ei wneud.”
“Dyma fy nhrydydd cwrs gyda Tir Coed, a byddaf yn gwneud rhagor os gallaf gael lle arnynt!”
Meddai Thomas o Langadog: “Mae’r cwrs wedi rhoi hwb enfawr i fy hyder.
“Cefais fy nghyfeirio ato gan Mind ac mae wedi fy helpu’n barod. Rwyf wedi cofrestru’n barod ar gyfer yr un nesaf.”
“Mae’r cwrs yn un cynhwysol dros ben, waeth beth yw eich oedran neu’ch rhywedd, ac mae wedi bod yn grêt cael dod allan yma a rhoi’r gorau i syllu ar fy ffôn am gyfnod.
“Mae gen i ddiddordeb mawr mewn hanes ac mae’r lle hwn yn anhygoel. Maen nhw’n darganfod pethau newydd yn gyson, sy’n eich arwain ymhellach yn ôl o hyd mewn hanes.”
Meddai Jessie o Gwm Elan: “Mae’n wych o safbwynt eich helpu i benderfynu beth rydych am ei wneud â’ch bywyd.
“Mae’r cwrs wedi bod yn ddifyr ac wedi gwneud lles i fy hyder.”
Meddai River o’r Bontnewydd: “Mae wedi bod yn gwrs gwirioneddol dda – roedd yn ddiddorol iawn, ac rydw i wedi mwynhau dysgu sut mae castio.”