Prosiect AnTir
Written by Tir Coed / Dydd Llun 18 Ionawr 2021
Mae AnTir yn brosiect 7 mlynedd sy’n darparu gweithgareddau lles a hyfforddiant mewn dulliau rheoli tir cynaliadwy (yn cynnwys tyfu bwyd).
Fe’i cynhelir yn y pedair sir ganlynol, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Phowys.
Yng Ngheredigion y caiff ei gynnal yn ystod y flwyddyn gyntaf, yna caiff ei dreialu ym mhob sir yn yr Ail flwyddyn cyn gweithredu’r prosiect yn llawn yn ystod y 5 mlynedd sy’n dilyn.
I ddarllen mwy am Brosiect Antir Tir Coed, cliciwch yma.