Plant ysgol yn dymuno bod pob diwrnod yn Ddiwrnod Tir Coed

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 13 Hydref 2021

Roedden ni’n awyddus iawn i ddechrau ein rhaglen ddysgu sy’n para blwyddyn ym Mhenfro y mis hwn.

Prif nodau'r rhaglen yw cynyddu ymgysylltiad disgyblion a'u helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol.

Yn y boreau, rydym yn gweithio gyda disgyblion Blwyddyn 7 un wythnos a gyda disgyblion Blwyddyn 8 yr wythnos nesaf, ac yna yn y prynhawniau rydyn ni'n gweld yr un grŵp o Flwyddyn 9 bob wythnos.

Byddwn yn cyflwyno sgiliau awyr agored ymarferol, rheoli coetir a gwaith coed gan ddilyn anghenion a diddordebau pob grŵp.

Mae pob grŵp bellach wedi ymweld â ni o leiaf unwaith ac rydym wedi dechrau helpu iddynt ddod i adnabod y coetir a'u cyflwyno i sgiliau goleuo tân diogel - gyda digon o falws melys!

Rydym hefyd wedi gofyn i'r plant beth byddent yn hoffi gwneud gyda ni ac mae'r awgrymiadau wedi cynnwys coginio tu allan ar dân agored, gemau cuddliw, gwehyddu a chelf natur, a byddwn yn integreiddio’r rhain i gyd o fewn y rhaglen.

Rydym wedi annog y plant i ymuno yn eu hamser eu hunain; mae rhai wedi bod yn nerfus yn yr amgylchedd newydd neu'n ansicr o weithgareddau ac roedd yn well ganddyn nhw arsylwi ar y dechrau.

Roedd un plentyn, a ddechreuodd y sesiwn gyntaf yn amharod i gerdded ar hyd y llwybr wedi gordyfu i'n gwersyll, wedi ein gadael gan ddweud ei fod yn dymuno bod pob dydd yn ddiwrnod Tir Coed!

Os oes gennych ddiddordeb mewn Tir Coed yn darparu darpariaeth awyr agored yn eich ysgol, cysylltwch â Nancy, ein Cydlynydd Dysgu am Natur ar [email protected]

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed