Sicrhau Llwyddiant: Prosiect AnTir Ceredigion
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 13 Chwefror 2024
Mae'n bleser gan Tir Coed gyhoeddi ei lwyddiant diweddar wrth sicrhau cyllid i gyflawni Prosiect AnTir Ceredigion yn 2023/24.
Mae Prosiect AnTir Ceredigion wedi derbyn £172,056 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth Cyngor Ceredigion. Bydd y prosiect hwn yn galluogi Tir Coed i ddarparu cyrsiau sgiliau coetir, natur, tyfu bwyd a sgiliau treftadaeth, sesiynau blasu a chyfleoedd gwirfoddoli ledled Ceredigion.
Gan adeiladu ar lwyddiant prosiect peilot Dichonoldeb AnTir yng Ngheredigion a ariannwyd drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU yn ystod 2021, bydd y ddarpariaeth yn cynnig sgiliau penodol i weithwyr, dysgu achrededig a phrofiad sy'n berthnasol ar gyfer swyddi gwyrdd. Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys mentora, cyngor ac arweiniad un-i-un, gan gefnogi dilyniant sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn tuag at fwy o ymgysylltu economaidd a chymunedol.
Bydd y gwaith ymarferol a wneir yn ystod Prosiect AnTir Ceredigion yn gwella mannau cymunedol a bioamrywiaeth er budd pawb.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cath Seymour: "Mae hyn yn newyddion gwych i ddyfodol Tir Coed yng Ngheredigion. Mae'n golygu y gallwn barhau i roi'r dysgu o gamau ymchwil a datblygu ein prosiect Dichonoldeb AnTir ar waith, parhau i gefnogi pobl dan anfantais, cynnig hyfforddiant wedi'i dargedu'n well i'r rhai sy'n dyheu am symud ymlaen i swyddi awyr agored neu wirfoddoli, a gwella mannau cymunedol er lles pawb. Mae'n rhoi'r adnoddau i ni chwarae ein rhan fach wrth ymateb i heriau allweddol sy'n wynebu pobl Ceredigion, wrth helpu cymunedau lleol i ddod yn fwy gwydn."
Os hoffech gael gwybod mwy am Brosiect AnTir Ceredigion, a chael gwybod sut i gymryd rhan, cysylltwch â: [email protected].
Nodiadau i'r golygydd:
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn brif biler agenda Hybu Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU, buddsoddi mewn cymunedau a lle, gan gynorthwyo busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/...