Gorfoledd Hyfforddai’r Goedwigaeth Gymdeithasol
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 01 Hydref 2019
Yn ystod y cwrs ymarferol fe wnaeth yr hyfforddai ddatblygu sgiliau ymarferol a sgiliau hwyluso grŵp yn yr awyr agored fydd yn hyrwyddo lles cymdeithasol, unigol ac amgylcheddol.
Enillwyd dealltwriaeth o’r damcaniaethau a’r technegau ar gyfer cynllunio ac arwain gweithgareddau diogel a gafaelgar ar gyfer grwpiau cymunedol mewn coedwigoedd.
Gorffennwyd yr wythnos gyda phryd o fwyd wedi’i rannu rhwng y grŵp cefnogo o hyfforddai, gyda phob un yn derbyn tystysgrif am y sgiliau a ddatblygwyd a’r hyder i arwain neu gefnogi gweithgareddau yn y goedwig.
Mae'r cwrs wedi bod yn amhrisiadwy i mi ac wedi gwella fy hunan-barch a fy hyder yn fawr iawn. Mae wedi agor fy meddwl i gyfleoedd newydd ac wedi gwneud i fi deimlo bod y gallu gyda fi i weithio mewn rol tiwtor cefnogi.
7 o hyfforddai
213 awr