Rhannu neges Tir Coed

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 24 Mawrth 2021

Steve ydw i, rheolwr marchnata a chyfarthrebu Tir Coed. Fy ngwaith i yw dathlu a rhannu gwaith arbennig yr elusen er mwyn annog mwy o bobl i grwydro a mwynhau rhyfeddodau coetiroedd hardd Cymru. Fel arfer, rwy wrth fy nesg o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Dywedwch rywbeth bach amdanoch chi eich hun …

Wedi dros 20 mlynedd fel newyddiadurwr a golygydd papur newydd yng Ngorllewin Cymru, penderfynais ei bod hi’n bryd am newid a chanolbwyntio ar ledaenu newyddion da. Rwy wedi bod wrth fy modd â’r awyr iach a’r amgylchfyd naturiol erioed, ac rwy’n cael fy nenu gan goetiroedd yn enwedig. Does dim yn well gen i na chrwydro ar hyd lonydd gwledig a llwybrau o gwmpas gogledd sir Gaerfyrddin gyda fy nghymar, Ruth, a’n ci blaidd, Vince. 

Beth yw eich diddordebau?

Rwy’n gefnogwr pêl-droed a rygbi Cymru brwdfrydig iawn – weithiau’n rhy frwdfrydig, yn ôl y sôn – ac am resymau amlwg yn gefnogwr tîm pêl-droed Leeds United ers dros ddeugain mlynedd. Rwy’n ymddiddori’n fawr yn hanes lleol Cymru, ac weithiau byddaf yn troi fy llaw at ysgrifennu ffuglen trosedd. Rwy’n treulio cryn dipyn o amser yn fy ngweithdy yn ystod y penwythnos, gyda’r nod o berffeithio fy rôl fel gof rhwystredig a didalent.

Beth sy’n eich cyffroi chi fwyaf am eich rôl newydd?

Mae gwaith Tir Coed a’r athroniaeth sy’n gyrru’r elusen yn sylfaenol er mwyn sicrhau dyfodol mwy gwyrdd, disglair a gwell i Gymru. Rwy’n hynod gyffrous ynglŷn â chael y cyfle i ledaenu neges Tir Coed ac annog mwy o bobl i fynd i’r afael â thrawsnewid ein tirlun a’n heconomi er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Beth yw eichhoff beth am fod allan yn yr awyr agored?

Prin iawn yw problemau bywyd na ellir eu datrys – neu o leiaf anghofio amdanynt am gyfnod – drwy fynd am dro drwy harddwch cefn gwlad Cymru. Mae bod yn dyst i natur gyfnewidiol ein tirlun yn ystod y pedwar tymor a gweld a chlywed yr adar a’r bywyd gwyllt sy’n mynd a dod yn ystod y flwyddyn yn rhoi mewnwelediad go iawn i ni o’n rôl ni fel gwarcheidwaid y wlad ryfeddol hon. 

Beth yw eich hoff dymor a pham?

Mae’r haf, pan fydd byd natur yn cyrraedd uchafbwynt o safbwynt ei gylchred flynyddol wedi bod yn ffefryn gen i erioed. Does dim yn well na cherdded ar hyd llwybr gwledig tawel drwy gaeau ac ar hyd lan yr afon wrth i’r adar ganu a bywyd fyrlymu drwy’r tir.

Petaech yn goeden, pa goeden fyddech chi a pham?

Mae’r dderwen Gymreig fawreddog wedi bod yn destun rhyfeddod i mi fyth ers i mi ddarganfod mai o’n coeden frodorol yr adeiladwyd llongau llynges Nelson yn bennaf – doedd y llyngesydd ddim yn fodlon defnyddio pren unrhyw goeden arall ar gyfer ei longau. Mae’r ffaith fod y dderwen Gymreig gyffredin fel arfer yn gartref i filoedd o rywogaethau eraill ar unrhyw un adeg yn ei gwneud hi’n fwy gwefreiddiol fyth. Maen hi hefyd yn edrych yn hynod fawreddog.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed