Gweithgareddau’r gwanwyn yn Sir Gaerfyrddin
Written by Tir Coed / Dydd Llun 07 Mehefin 2021
Mae pedair wythnos gyntaf ein cwrs gwaith saer coetir 12 wythnos wedi hedfan heibio yn Sir Gaerfyrddin.
Ddechrau mis Mai, cafodd tri hyfforddai newydd, Bob, Chris ac Oscar, eu croesawu ar y cwrs, yn ogystal â dau arall, Adam a Steve, oedd yn cael eu croesawu yn ôl wedi iddyn nhw ymuno â ni rai wythnosau cynt ar ein cwrs rhagarweiniol Croeso i’r Coetiroedd.
Fe ddechreuon ni gyda thaith gerdded o gwmpas Parc Gwledig Mynydd Mawr er mwyn dod i adnabod y safle a’n gilydd ychydig yn well.
A ninnau ond wedi rhedeg cyrsiau yma yn y gorffennol yn ystod misoedd y gaeaf, roedd gweld gweithgaredd yn ystod y gwanwyn yn hynod gyffrous, a chawson ni ’mo’n siomi. O ditwod tomos las yn nythu yn y coed i benbyliaid yn y pyllau dŵr, roedd digon o fywyd newydd i’w ddarganfod a’i fwynhau.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn dod i adnabod ein gilydd yn well, gan rannu straeon, sgiliau a phrofiadau ar hyd y daith.
Wrth i’r dyddiau fynd rhagddynt, mae’r grŵp wedi bod yn mireinio eu sgiliau gwaith coed, yn defnyddio offer a thechnegau newydd i greu ambell ddarn gwaith coed uchelgeisiol; yn cynnwys dwy fainc rasglu newydd a darnau mwy cain megis llwyau, ffyn a hyd yn oed rhesel i ddal welis! Ond gyda’r tywydd bendigedig sydd wedi bod yn ddiweddar, gadewch i ni obeithio na fydd angen honno am dipyn…