Staff a gwirfoddolwyr yn creu gwrychoedd bychain yn Aberystwyth
Written by Tir Coed / Dydd Gwener 18 Tachwedd 2022
Mae staff a gwirfoddolwyr Tir Coed wedi bod yn helpu natur i ffynnu yn Aberystwyth.
Ymunodd y tîm â RSPB Cymru i helpu i greu triongl o wrych yn Hwb Cymunedol Penparcau.
Mae’r gwrych yn ardal fechan o blanhigion lle gall natur a bywyd gwyllt oroesi a ffynnu.
Mae gwrychoedd fel hyn yn ddelfrydol ar gyfer ardaloedd sy’n anaddas ar gyfer gwrychoedd hirach a mwy.
Unwaith y daw’r gwanwyn, bydd y gwrychoedd yn creu cyfres o brysglwyni ac yn darparu noddfa i adar, mamaliaid bychain a phryfed.