Grisiau tuag at lwyddiant
Written by Tir Coed / Dydd Llun 19 Mawrth 2018
Fel rhan o’r prosiect LEAF, mae Tir Coed yn cynnig cyrsiau hyfforddi dwys 5 diwrnod. Y nod yw ehangu sgiliau cyfranogwyr. Mae hyn yn cynnwys datblygiad personol yn ogystal â sgiliau gwaith.
Rydym newydd gwblhau’r cwrs 5 diwrnod cyntaf yn Sir Benfro ble fu cyfranogwyr yn adeiladu grisiau ar safle ym Maenclochog.
Wedi’i arwain gan ddau diwtor profiadol, dechreuodd ein cyfranogwyr gyda choed derw a gwympodd yn ystod stormydd y gaeaf. Rhannwyd y coed i wneud ochr y grisiau a’r pegiau cefnogol ac aethant ati i gloddio i mewn i’r llethr i baratoi’r safle be fyddant yn eu gosod cyn mynd ati i wneud hynny.
Yn ystod y cwrs, dysgodd y cyfranogwyr sgiliau rheolaeth cefn gwlad a thirlunio, ennill profiad gydag amryw o offer newydd ac edrychwyd ar ymarferion gweithio diogel. Yn ogystal â sgiliau ymarferol, fe weithiant yn galed fel tîm, ennill hyder a chael llawer o sbort (er ei fod yn bwrw cesair!)
Ar ddiwedd y cwrs, o gwmpas y tân, fe drafodon ni beth yr oeddem wedi’i ddysgu yn ystod y cwrs. Fe ddywedodd un cyfranogwr ei fod wedi dysgu am offer nad oedd wedi’u defnyddio o’r blaen. Dywedodd un arall ei fod wedi mwynhau bod allan yn yr awyr agored am yr wythnos. Nododd pob un o’r cyfranogwyr bod y tiwtoriaid wedi creu awyrgylch gefnogol llawn hwyl. Gan fod Tir Coed yn ganolfan achredu cafodd bob un o’r cyfranogwyr dystysgrif y gallant ei ddefnyddio, er enghraifft, mewn cyfweliadau i ddangos beth y maent wedi’i ddysgu ar y cwrs.
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau sy’n dod i fyny dilynwch ni ar Facebook a chadwch lygad ar ein calendar.