Cwrs haf yn agor y drws i lwyddiant

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 14 Medi 2021

Roedd hi, wrth gwrs, yn tywallt y glaw ar gyfer uchafbwynt cwrs haf 12 wythnos Tir Coed, ond ni wnaeth hynny ein rhwystro rhag cael barbeciw hyfryd a chyflwyniad tystysgrifau i gydnabod gwaith caled pawb.


Roedd ein hyfforddeion wirioneddol wrth eu bodd gyda'r cwrs, gan ddysgu technegau crefftau traddodiadol er mwyn creu ein giât newydd wych yn ogystal ag ennill llwyth o sgiliau awyr agored ymarferol fel cynnau tân, clymau a rhywfaint o ecoleg coetir.

Bydd yr hyfforddeion yn gadael gyda chymhwyster L2, llawer o sgiliau a gwybodaeth ddefnyddiol, a gyda lwc, ffrindiau newydd.

Rydyn ni mor falch o ba mor galed mae pawb wedi gweithio, ac - fel mae'r giât hardd hon yn ei dangos - maent yn sicr wedi datblygu sgiliau crefft gwych.

Agorwyd y giât newydd yn swyddogol gan berchnogion y coetir, a, drwy garedigrwydd, adawodd inni ddefnyddio'r goedwig ar gyfer ein cyrsiau.

Byddwn yn cynnal cwrs gaeaf ar gyfer y rhai ohonoch sy'n ddigon dewr i weithio yn y coed trwy'r misoedd oerach ac rydym eisoes yn derbyn ceisiadau. Cysylltwch â ni ar y manylion isod.

Wrth siarad yn y seremoni gyflwyno, roedd un o’n hyfforddeion mor hapus gyda’r amser a dreuliodd yn y coed, dywedodd: ‘Roeddwn yn ddigon ffodus yn ddiweddar i fynychu’r cwrs gwaith coed coetir gyda Tir Coed yng Nghoed Scolton, Sir Benfro.

“Roeddwn i eisiau rhannu gyda chi faint wnes i fwynhau’r cwrs a dweud ei fod wedi cael effaith gadarnhaol enfawr ar fy mywyd.

“Roedd hi wir yn fraint treulio amser yn y coetir ac mae staff Tir Coed wedi gwneud gwaith anhygoel wrth greu amgylchedd diogel a chefnogol yn enwedig yn yr amseroedd rhyfedd yn dod o’r cyfnod clo.”

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed