Glasu Sir Gaerfyrddin Trwy Blannu Coed a Gosod Gwrychoedd

Written by Tir Coed / Dydd Llun 15 Ebrill 2024

Yn ddiweddar, fe wynebodd tîm penderfynol iawn o hyfforddeion Tir Coed y gwaethaf o dywydd Sir Gaerfyrddin i ddysgu set eang o sgiliau newydd, ac fe gawson nhw eu gwobrwyo ag ychydig o heulwen brin i edmygu ffrwyth eu llafur.

Wrth blygu cloddiau gyda Tir Coed, mae’n rhaid gwneud eich morthwylion pren eich hun, felly treuliwyd y diwrnod cyntaf yn y tŷ crwn, cyn i’r hyfforddeion brofi eu gwaith llaw y diwrnod canlynol yn curo polion i mewn (a byddwch yn falch o glywed eu bod i gyd wedi pasio gyda seren aur).


Yna fe aethon nhw ati i blygu clawdd oedd wedi gordyfu ar fferm leol, gan ddefnyddio technegau traddodiadol. Yn ddi-ofn wrth daclo’r clawdd a'r mwd, fe wnaethon nhw waith anhygoel, ac maen nhw i gyd yn edrych ymlaen at ddychwelyd i weld y clawdd unwaith y bydd wedi dechrau tyfu.

Er eu bod yn dioddef ar ôl plygu clawdd, fel unrhyw dîm da o hyfforddeion Tir Coed, roedden nhw’n awyddus i ddysgu mwy o sgiliau, felly’r diwrnod canlynol fe wnaethon nhw ailblannu ardal o goetir a oedd wedi’i chlirio’n ddiweddar ym Mharc Gwledig Llyn Llech Owain. Yn cymryd lle’r coed coniffer a gwympwyd oedd amrywiaeth o goed llydanddail brodorol, felly dysgodd yr hyfforddeion sut, pam, ble a phryd i blannu gwahanol rywogaethau o goed.


Prif fantais cael caniatâd i blannu yn Llyn Llech Owain yw y gallem, ar ddiwedd y dydd, i gyd eistedd yn y Caffi gyda mẁg o de, darn o gacen siocled haeddiannol, a ffrindiau newydd. Roedd yn gyfle i fyfyrio ar wythnos wych, ac edrych ymlaen at ddefnyddio ein sgiliau newydd yn y dyfodol.

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn brif biler agenda Hybu Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU, buddsoddi mewn cymunedau a lle, gan gynorthwyo busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i

https://www.gov.uk/government/publicat...


Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed