Tîm Tir Coed yn cwrdd yn Powys
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 12 Hydref 2021
Llwyddodd bron i dîm cyfan Tir Coed ymgynnull yn ein tŷ crwn ym Mhowys yn ddiweddar i ddal i fyny, cwrdd ag wynebau newydd, bod yn greadigol a mwynhau ysblander Cwm Elan.
Manteisiodd Teresa, y Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro, ar y cyfle i ddiweddaru'r tîm ar ein cynnydd ac ehangu ar gynlluniau ar gyfer y dyfodol wrth i gyfres o sesiynau grŵp alluogi staff i gael darlun ehangach o'r sefydliad a symleiddio rhai o'n harferion gwaith.
Aeth Ben, mentor Powys, â'r tîm ar daith fer o amgylch un o'r argaeau ar ystâd Elan cyn i Gayle, cydlynydd y sir, orffen y diwrnod gyda gweithdy gwneud ffelt.
Er i ni lwyddo i wneud dipyn o waith pwysig, roedd y diwrnod yn ymwneud yn bennaf â gweld ffrindiau a chydweithwyr wyneb yn wyneb eto am y tro cyntaf mewn cyfnod a oedd yn teimlo fel oes.
“Roedd hi’n hyfryd gallu dod â’r tîm cyfan bron at ei gilydd eto,” meddai Teresa.
“Mae rheoliadau Covid wedi ei gwneud hi’n anodd iawn dod â phawb at ei gilydd mewn un lle ar yr un pryd felly roedd hi’n wych gweld pawb a rhoi gwybod iddyn nhw yn bersonol eu bod yn gwneud gwaith gwych.
“Mae Cwm Elan yn lle mor brydferth a diolch i’n tŷ crwn a’r tywydd, roeddem i gyd yn gallu cwrdd yn ddiogel cyn mynd ar daith o amgylch yr ystâd.
“Hoffwn ddiolch i dîm Powys am gynnal diwrnod hamddenol a llawn hwyl.”