“Mae’r cwrs wedi bod yn wych - roedd yn berffaith.”

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 23 Mawrth 2022

Bu’r hyfforddeion yn cydnabod diwedd ein Cwrs Gaeaf Rheoli Coetiroedd 12 wythnos yng Nghoedwig Scolton, Sir Benfro, gyda barbeciw dathliadol cyn derbyn eu tystysgrifau.

Ni wnaeth y tywydd gwael stopio’r grŵp rhag gwneud y mwyaf o’u diwrnod olaf, ac roedd yna awyrgylch glir o bositifrwydd ac ymdeimlad o berthyn ymysg y cyfranogwyr.


“Rydyn ni wedi dod yn ffrindiau da iawn gyda phawb ar y cwrs, ac roedd hynny’n rhywbeth nad oeddwn yn ei ddisgwyl,” dywedodd Jayne, o Efailwen.

“Roedd y staff i gyd yn hyfryd - maen nhw i gyd mor amyneddgar a chefnogol.”

Ychwanegodd Holly, o Arberth: “Fe wnes i garu’r cwrs.”


“Roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus yma yn syth, ac un o’r pethau gorau am y cwrs yw eich bod chi’n gwneud popeth ar eich cyflymder eich hunain.”

Dywedodd Ben, o Aberdaugleddau: “Mae pawb wedi bod mor gyfeillgar. Roedd y cwrs yn un dymunol iawn, gyda llawer o bositifrwydd.”

Josh, o Rosfarced, yw’r hyfforddai cyntaf i gwblhau’r ddau gwrs 12 wythnos, cwrs Wythnos Croeso a Chwrs Dilyniant, ac mae ei hyder newydd wedi helpu ei arwain ar y llwybr tuag at yrfa newydd.


“O ganlyniad i wneud y cwrs hwn, rydw i nawr wedi ennill swydd llawn amser a hoffwn ddiolch i bawb yn Tir Coed am fy helpu i gyflawni hynny,” dywedodd Josh.

Mae Moira, o Arberth, hefyd yn argymell y cwrs yn fawr.

“Mae wedi bod yn dda iawn i weld bod y cwrs yn cynnig rhywbeth i bobl o bob oedran gan fod pobl o ystod eang o oedrannau wedi cymryd rhan,” dywedodd hi.


“Rydw i wedi dysgu gymaint am goed a ffyngau ac mae’r tiwtoriaid wedi bod mor wych. Mae ganddyn nhw ffordd wych o gyfathrebu â phobl ac roedden nhw wedi gofalu am bawb.”

Mae Abheda, o Henllan, yn gobeithio mynychu rhagor o gyrsiau Tir Coed yn y dyfodol. Dywedodd hi: “Mae wedi bod yn gyfnod o iachau yn y goedwig. Rydw i nawr yn teimlo llawer yn dawelach, yn fwy cadarnhaol ac yn fwy cysylltiedig.

“Roedd y tiwtoriaid yn gefnogol iawn ac roeddent wedi fy ngalluogi i gyfrannu lle na fyddaf wedi bod yn gallu fel arfer.”


Roedd Caroline, o Aberdaugleddau, wedi bod yn cymryd rhan mewn cwrs gofal plant yn ysgol ei merch, ond cafodd ei chyfeirio tuag at Tir Coed oherwydd roedd y cwrs hwn yn cyd-fynd yn fwy â’i diddordebau.

“Mae’r cwrs wedi bod yn ardderchog. Mae wedi bod yn berffaith,” dywedodd hi.


Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed