Amser i Serennu ar gyfer dau o Tir Coed yng nghynhadledd Time to Shine

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 19 Gorffennaf 2022

Y mis diwethaf, mwynhaodd Vik a Cath o Tir Coed daith fendigedig i Lyn Windermere lle’r oeddent wedi’u gwahodd i gymryd rhan mewn cynhadledd Time to Shine deuddydd.

Dyluniwyd y digwyddiad i edrych ar raglen Time to Shine eleni, a ariennir gan y Rank Foundation.


Rhoddodd y gynhadledd gyfle gwych i’r ddau o Tir Coed i rwydweithio ag arweinwyr a rheolwr Time to Shine eraill, wrth iddynt fynychu sesiynau ar Archwilio Arddulliau Arwain a Meddylfrydau Twf.

Cafodd yr arweinwyr amser hefyd i gynllunio ar gyfer arddangosfa y byddant yn cyflwyno mewn digwyddiad ym mis Medi.

‘Gwnaethom fwynhau treulio amser gydag arweinwyr a rheolwyr arall yn fawr,” dywedodd Cath.


“Roedd yn ysbrydoledig i glywed am yr holl waith gwych sy’n mynd yn ei flaen ar draws y trydydd sector.

“Mae digwyddiadau’r Rank Foundation yn wych ar gyfer rhoi ychydig o amser i gamu’n ôl a gweld pethau o safbwynt ehangach.”

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed