Mae Tir Coed yn dathlu pum mlynedd o Brosiect LEAF

Written by Tir Coed / Dydd Llun 12 Medi 2022

Yr wythnos diwethaf, dathlodd Tir Coed ddiwedd ei brosiect LEAF 5 mlynedd gyda chyfarfod tîm yng Nghoetir Cymunedol Long Wood.

Mae'r prosiect wedi gweld cannoedd o unigolion yn ennill cymwysterau coetir ac mae miloedd yn treulio amser o ansawdd yn yr awyr agored ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Fe wnaethom ddathlu gyda diweddariad ar lwyddiannau niferus y prosiect, a dilyn gyda rhai gweithgareddau tîm, hwyl a gemau, a bwyd gwych.

Hoffem dalu teyrnged i’r holl hyfforddeion, cyfranogwyr, staff, gwirfoddolwyr, cyllidwyr a thirfeddianwyr sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect a’i wneud yn bosibl.

We now look forward to the next stage of the Tir Coed journey as we continue our work with our AnTir project.

Edrychwch ar oriel ein dathliad.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed