Tir Coed yn parhau i gefnogi eu cymuned, diolch i arian y Loteri Genedlaethol

Written by Tir Coed / Dydd Llun 07 Mehefin 2021

Mae Tir Coed wedi bod yn helpu trigolion Penparcau, Aberystwyth, yn ystod y cyfnod heriol hwn trwy gynnal cyfres o sesiynau gweithgareddau sy'n gysylltiedig â natur, diolch i gefnogaeth y Loteri Genedlaethol.


Gwnaeth Tir Coed gais llwyddiannus am £10,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi'r sesiynau sy'n helpu teuluoedd, sy'n rhan o brosiect AnTir uchelgeisiol yr elusen.

Mae prosiect AnTir yn darparu gweithgareddau lles a hyfforddiant mewn dulliau rheoli tir cynaliadwy, gan gynnwys tyfu bwyd, ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Meddai Ffion Farnell, prif weithredwr Tir Coed: "Hoffem ddiolch yn fawr iawn i sefydliad y Loteri Genedlaethol a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am eu cymorth wrth gefnogi prosiect AnTir.


"Mae AnTir – sy’n chwarae ar eiriau – ‘Antur’ a ‘Tir’ – yn galluogi pobl leol i gymryd camau ymarferol i wella eu canlyniadau iechyd a chyfoeth. Mae hefyd o fudd i'w cymuned leol ac yn helpu i fynd i'r afael â materion byd-eang drwy ddatblygu ymateb ymarferol cadarnhaol ar lefel leol.

"Mae'r cyllid hwn yn ein helpu i ddarparu gweithgareddau ystyrlon yn yr awyr agored i wella iechyd a lles drwy annog pobl i werthfawrogi tyfu bwyd a bwyd iach i raddau helaethach yn ogystal â darparu sgiliau newydd a gwella opsiynau cyflogadwyedd lle y bo'n briodol.


"Gall gweithgareddau'r teulu gynnwys popeth o blannu hadau a gwneud compost i wneud cafnau planhigion o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu a chreu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt."

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed