Tir Coed yn mynd yn ôl i'r coetiroedd

Written by Tir Coed / Dydd Llun 23 Tachwedd 2020

Tir Coed yn ôl i’r goedwig yr wythnos ddiwethaf fel bod hyfforddeion yn gallu cwblhau cyrsiau a ddaeth i ben yn sydyn oherwydd Covid 19.

Roedd yr elusen, sy’n cysylltu pobl â byd natur a’r awyr agored drwy sesiynau gwirfoddol, hyfforddiant a gweithgareddau wedi’u teilwra, wedi gorfod rhoi’r gorau i gyflwyno nifer o gyrsiau hyfforddiant rheoli coetiroedd wrth i’r wlad wynebu cyfnod clo mewn ymateb i’r feirws.


Roedd hyfforddeion ar safleoedd yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys yn falch iawn eu bod yn gallu cwblhau eu cyrsiau, ond y prif atyniad oedd y cyfle i dreulio mwy o amser yn y coetiroedd.

Bev Edwards o Arberth oedd un o’r hyfforddeion wnaeth ddychwelyd i Goed Scolton ger Hwlffordd i gwblhau ei chwrs.

“Mae’n braf iawn dod nôl a bod yng nghanol byd natur eto,” dywedodd Bev.

“Rydyn ni wedi treulio cymaint o amser dan do dros y misoedd diwethaf ac mae pawb wedi bod yn teimlo’r straen, felly mae’n wych cael mynd allan unwaith eto.

“Y peth gwaethaf am y cyfnod clo i mi oedd fy mod i’n colli gweld pobl, felly mae’n beth gwych cael gweithio a dysgu gyda phobl eraill eto.

“Mae bod allan a dod yma, lle mae popeth mor dawel – mae’n rhan mawr o fy mywyd i. Mae hi mor braf yma. Dw i wir wedi colli’r profiad hwn yn ystod y cyfnod clo.

“Dw i’n teimlo’n gwbl fodlon pan dw i allan yn y coed.”

Dywedodd ei chyd-hyfforddai Alice: “Mae’n wych bod nôl yn y coed. Dw i’n caru bod yma.

“Doedd fy iechyd meddwl ddim yn dda iawn cyn i mi ddod yma, ac roedd y cyfnod clo yn reit anodd. Ond mae’r amser wnes i ei dreulio yn y coed gyda Tir Coed cyn hynny wedi helpu llawer.

“Dw i wedi dysgu sgiliau hollol wych.

“Yn bersonol ac yn broffesiynol, mae gweithio gyda Tir Coed wedi bod o fudd mawr i mi.”

Dywedodd Luke Frost o Landdowror: “Dw i wrth fy modd i fod nôl. Roedden ni i gyd yn siomedig pan ddaeth y cwrs i ben yn gynnar felly dw i’n hapus iawn ein bod nôl yn y coed i orffen y cwrs.


“Fe wnes i ddechrau ar y cwrs i ddysgu mwy am dechnegau rheoli coetiroedd ond mae’r ochr gymdeithasol wedi bod yn wych ac wedi bod o help mawr i mi.

“Mae’n wych bod yn yr awyr agored unwaith eto, yn gweithio gyda phobl eraill eto.”

Roedd Tony Bell o Rydaman yn rhan o’r grŵp sy’n gweithio ym Mharc Coetir Mynydd Mawr ger y Tymbl yn Sir Gaerfyrddin.

“Mae gweithio allan yn y goedwig wedi bod yn wych i fy lles cyffredinol ac iechyd meddwl,” dywedodd.


“Mae’r pethau wnes i elwa arnyn nhw cyn y cyfnod clo wedi fy helpu dros y misoedd diwethaf, ond mae’n grêt cael bod nôl yn y coed eto.

“Mae bod yn yr awyr agored a gweithio gyda choed yn rhoi cymaint o egni positif i ni.”

Dywedodd Daniel Jones, sydd hefyd o Rydaman: “Dw i wedi dysgu cymaint ar y cwrs, a nawr dw i’n gwerthfawrogi’r cyfle i fod allan yn y coed cymaint yn fwy.

“Mae wedi bod mor dda i mi – mae’r profiad wedi bod yn help mawr i fy iechyd meddwl.”


Elusen yng ngorllewin Cymru yw Tir Coed sy’n cysylltu pobl â thir a choed drwy gyflwyno sesiynau gwrifoddoli, hyfforddiant achrededig a gweithgareddau wedi’u teilwra i wella lles, datblygu sgiliau a gwella ein coetiroedd a’n mannau gwyrdd er budd pawb.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed