Dathliad Pen-blwydd Tir Coed yn 25 Oed yng Nghoedwig Scolton
Written by Tir Coed / Dydd Llun 25 Tachwedd 2024
Wrth i ni barhau â'n dathliadau 25 mlynedd, cynhaliodd Tir Coed ddigwyddiad cofiadwy yng Nghoedwig Scolton, Sir Benfro. Roedd hi’n brynhawn oer ond llachar, gydag eira’n gorchuddio rhannau eraill o Gymru, gan wneud y cynulliad yn fwy arbennig fyth.
Roedd y diwrnod yn llawn llawenydd, cyfeillgarwch, ac, wrth gwrs, cacennau. Fe gyflwynodd ein Cyd-Brif Weithredwyr, Cath Seymour (Pennaeth Gweithrediadau) a Helen Gethin (Pennaeth Cyllid), areithiau twymgalon a oedd yn myfyrio ar dwf anhygoel Tir Coed o’i ddechreuadau diymhongar yn 1999 i’w lwyddiant presennol yn 2024. Buont hefyd yn rhannu eu hymrwymiad a’u hoptimistiaeth tuag at y dyfodol, gan bwysleisio ein cenhadaeth barhaus i ddatgloi potensial tir a choetiroedd i ddarparu cyfleuster cymunedol, gweithgareddau addysgol ac iechyd, a chreu cyfleoedd gwaith wrth gymryd camau i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth ar lefel leol.
Roedd y digwyddiad nid yn unig yn dathlu llwyddiannau trawiadol Tir Coed ond hefyd yn tynnu sylw at yr effaith ddofn y mae ein gwaith wedi’i chael ar unigolion a chymunedau. Roeddem wrth ein bodd i gael cefnogaeth ein sefydliadau atgyfeirio anhygoel, y tirfeddianwyr Jerry a Charlotte, a llawer o'n cyn-hyfforddeion sydd wedi bod yn rhan o daith Tir Coed.
Mynegodd Jerry a Charlotte eu diolchgarwch yn ystod y digwyddiad:
“Diolch i Tir Coed am helpu i greu’r cyfleusterau i gefnogi lles llawer o grwpiau o fewn y gymuned leol. Mae’r safle yng Nghoed Scolton wedi cael ei ddefnyddio gan grwpiau ysgol a sefydliadau, gan gynnwys y GIG, a Mind i enwi ond ychydig."
Rhannodd Bev, sy’n gyn-hyfforddai, ei stori ysbrydoledig hefyd:
“Rydw i wedi bod ar dipyn o gyrsiau gyda Tir Coed—mae wedi cyflwyno byd natur a gwneud pethau â phren i mi. Rwyf wedi cael cymaint mwy o gyfleoedd ac mae wedi gwella fy iechyd meddwl - mae wedi bod yn wych!"

Diolch i bawb a ymunodd â ni yng Nghoedwig Scolton ac i bawb sydd wedi bod yn rhan o daith Tir Coed.
Cadwch lygad am ragor o ddiweddariadau wrth i ni barhau â'n dathliadau pen-blwydd!