Cyfarfod Flynyddol Tiwtoriaid Tir Coed

Written by Tir Coed / Dydd Gwener 12 Hydref 2018

Defnyddiodd Tir Coed Neuadd Victoria, Llanbedr Pont Steffan fel lleoliad ar gyfer cyfarfod staff ac 17 o’n tiwtoriaid llawrydd mwyaf rheolaidd ar Fedi’r 25ain.

Mae Llanbed yn ganolbwynt i’r tair sir yr ydym yn gweithio ynddynt ar hyn o bryd (Ceredigion, Sir Benfro a Phowys), ac felly roedd yn lleoliad perffaith i sicrhau bod cymaint o diwtoriaid a phosib yn gallu bod yno.


Dechreuodd y gweithgareddau gyda bwffe a chyfle i rwydweithio, cwrdd â hen ffrindiau, a gwneud cysylltiadau newydd.

Amlinellodd y cyflwyniadau'r datblygiadau cyffrous diweddar o fewn Tir Coed, gan gynnwys y cyllid sydd wedi’i sicrhau, ein hehangiad i ardaloedd newydd (gan gynnwys Sir Gâr), cyflwyno aelodau o staff newydd a’r datblygiadau yng ngwaith papur a phrosesau Achrediad.


Cyflwynwyd y tiwtoriaid i Eleri, ein myfyrwraig doethuriaeth, fydd yn ymuno â nifer o’r sesiynau hyfforddi dros y flwyddyn nesaf. Mae Eleri’n cydgysylltiedig ag Ymddiriedolaeth Cwm Elan a Phrifysgol Aberystwyth i astudio’r effaith y mae Tir Coed yn ei gael ar les a chyflogaeth cyfranogwyr.

Yna cynhaliwyd sesiynau gweithdy grwpiau bychan ble’r oedd cyfle i gael trafodaethau bywiog, ac i gyfrannu syniadau ac adborth ynglŷn â chynlluniau datblygu’r dyfodol.


Mwynhaodd pawb yr awyrgylch cynnes a chyfeillgar yn ystod y digwyddiad. Edrychwn ymlaen at ddigwyddiadau’r dyfodol, ac i symud ymlaen gyda’n gilydd i gynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau, a mynediad i goedwigoedd.


Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed