Dirwnod Datblygu Tîm Tir Coed

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 25 Mehefin 2024

Yn ddiweddar, fe wnaethom gynnal Dirwnod Datblygu Tîm yn un o'n safleoedd coetir bendigedig yn Sir Gaerfyrddin, gan ddod ag aelodau o'r tîm sy'n rhychwantu pedair sir Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys ynghyd. Roedd y Diwrnod yn cynnwys taith o amgylch y safle, gan arddangos yr uchafbwyntiau naturiol a phrosiectau Tir Coed y gorffennol, gweithgaredd gwneud modrwyau pren dan arweiniad Oriel y VC, a chyfle i rannu profiadau, sgiliau ac arbenigedd. Darllenwch beth oedd gan Oriel VC i'w ddweud am y dirwnod yma...

Ar Ddydd Mercher 19eg o Fehefin cawsom y fraint o gael ein gwahodd i gynnal cwpl o sesiynau modrwyon Bentwood yn Niwrnod Datblygu Tîm Tir Coed ar gyfer holl aelodau staff ar draws y sefydliad ym Mharc Coetir Mynydd Mawr yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd yn wych rhoi yn ôl i Tir Coed sydd wedi cefnogi ein cyfranogwyr yng Nhoedwig Scolton, Hwlffordd, ar gwrs Rheoli Coetiroedd yn Gynaliadwy 12 wythnos yn ddiweddar.

Mae eu gwybodaeth a'u hangerdd dros gyflwyno cyrsiau o'r fath heb eu hail ac mae eu hegni a'u brwdfrydedd yn anhygoel.

Roedd yn hyfryd dal i fyny gyda wynebau cyfarwydd a rhai newydd a threulio peth amser o safon yn y goedwig, yn gwneud modrwyau Bentwood.

Cymerodd pawb ran yn yr amgylchedd hamddenol, gan gwblhau eu gwaith o argaen pren i ddarnau pwrpasol o emwaith unigol.

Roedd yn bleser cydweithio â Tir Coed a chael gwahoddiad i ddathlu digwyddiad llwyddiannus arall.

Byddwn yn sicr yn parhau i gydweithio yn y dyfodol agos iawn...

Diolch yn arbennig i gynorthwywyr VC ar y digwyddiad Donna Evans a Phil Hyde am helpu i hwyluso'r gwithdy ac ychwanegu sblash o hiwmor ar unrhyw adeg benodol.

Diolch yn fawr iawn i Charlie, Donna a Phil am eu cyflwyniad arbenigol o weithgaredd crefft coetir mor bleurus, ac am greu awyrchylch mor hamddenol ar ein Diwrnod Datblygu Tîm!

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed