Tracy'n Ymuno a'r Tîm Achredu
Written by Tir Coed / Dydd Iau 15 Chwefror 2024
Dywedwch ychydig wrthym amdanoch chi’ch hun
Fy enw i yw Tracy Stack ac yn ddiweddar cefais fy mhenodi’n Gydlynydd Hyfforddiant ac Achredu gyda Tir Coed. Dechreuais fy nhyrfa fel gwastrawd a hyfforddwr marchogaeth, ond ar ôl dod yn fam sylweddolais yn fuan nad oedd y ddau yn cymysgu, felly des yn athrawes ysgol gynradd. Yn ddiweddarach es ymlaen i fod yn Gydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig, oherwydd fy angerdd i bawb gyflawni’r gorau y gallant. Fodd bynnag, pan ddaeth Covid 19 ymlaen, gan achosi straen aruthrol a phryder i bawb, penderfynnodd fy ngŵr a minnau hanner-ymddeol i Gymru. Rydym wedi bod yn byw yma ers dwy flynedd bellach ac wedi cyfarfod â phobl gyfeillgar iawn yn ystod y cyfnod hwnnw.
Beth yw eich hobïau?
Yn fy amser rhydd rwy’n mwynhau bod yn yr awyr agored, a dyna pam roedd gweithio yn Tir Coed yn apelio ataf (a dwi heb gael fy siomi). Mae fy nheulu hefyd yn bwysig i mi ac rwy’n anfon cymaint o amser sbâr â phosibl gyda fy wyres 4 mis oed. Rwyf ar fy hapusaf pan fyddaf yn cerdded fy nghi Hector ac yn cymryd amser i arafu a chanolbwyntio ar y golygfeydd.
Beth sy’n eich cyffroi fwyaf am eich rôl newydd?
Y cyfle i gwrdd â phobl newydd, archwilio cefn gwlad a gobeithio gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl eraill.
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am fod yn yr awyr agored?
Y llonyddwch, y gofod a’r awyr iach sy’n gneud ichi deimlo’n fyw.
Beth yw eich hoff dymor a pham?
Fy hoff dymor yw’r gwanwyn oherwydd mae popeth yn dechrau dod yn ôl yn fyw. Mae gan yr aer awgrym o gynhesrwydd ac mae’r lliwiau’n ymddangos hyd yn oed yn fwy bywiog a ffres.
Pe baech yn goeden, beth fyddech chi?
Coeden ffynidwydd fach efallai sy’n cael ei dwyn i mewn i’r cynnes dros dymor oer y gaeaf a’i haddurno ar gyfer y Nadolig.