Cwrs Haf Crefft Draddodiadol
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 21 Awst 2018
Mae Cwrs Haf Crefft Draddodiadol Tir Coed ar gyfer y teulu cyfan wedi dechrau, a’r slot mwyaf poblogaidd yw’r adran iau ar fore Sadwrn o 10yb hyd 1yh, ble mae plant ifanc 10 oed (neu iau gyda rhiant) wedi gwneud eitemau prydferth â llaw i fynd adref gyda nhw. Wythnos diwethaf gwnaethant lwyau pren a’r wythnos hon gwnaethant spatwlau. Mae’r rhai ifanc wedi mwynhau dysgu sgiliau newydd a gweithio gydag offer traddodiadol, maent wedi hoelio yn y gweithgaredd cymaint, mae’n rhaid eu tynnu oddi yno ar ddiwedd y dydd.
Yn y prynhawn, mae’r sesiynau oedolion wedi bod yn rhedeg o 2yh nes 5 yh ac y maen nhw hefyd wedi bod yn boblogaidd, gyda chyfranogwyr yn datblygu sgiliau bwyell, cyllyll a sgiliau troi pren ar y turn polyn a chreu eitemau y dylent fod yn falch ohonynt.
Os oes gennych chi blant a phobl ifanc sydd wedi diflasu ac yn edrych am weithgareddau gyda gwahaniaeth neu eisiau ymuno â ni ar gyfer y sesiynau olaf, rhowch alwad i ni ar 01970 636909 i archebu’r ychydig le sydd ar ôl (cost y sesiwn £10 Iau/ £15 oedolyn).