Hyfforddeion yn blaguro ar y safle newydd
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 12 Ebrill 2022
Mae cwrs Rheoli Coetir yn Gynaliadwy 12 wythnos Tir Coed yng Ngheredigion wedi dod i ben ar ein safle newydd.
Bu’r hyfforddeion ar y cwrs yn gweithio yng Nghoed Llanina, ger Cei Newydd, diolch i bartneriaeth gyffrous gyda Dŵr Cymru - sy’n berchen ar y safle.
Mae Coed Llanina yn goedwig gymharol ifanc sydd wedi rhoi cyfleoedd perffaith i’r hyfforddeion ymarfer cwympo coed, creu cynefinoedd a bondocio coed coed cyll traddodiadol.

Yn ystod y cwrs, roedd y tîm wedi gallu gwella mwy na 150m² o goetir a llwybrau.
Er gwaethaf heriau niferus llawer o stormydd dros y gaeaf, llwyddodd y pum hyfforddai a oedd wedi mynychu’r cwrs i ennill achrediad Lefel 2 Agored Cymru mewn Rheoli Coetir yn Gynaliadwy a Sgiliau Awyr Agored yn orchestol. Da iawn i’r tîm!

Bydd hyfforddeion nawr yn ymgymryd â chwrs Cyflwyniad i Ecoleg lle byddant yn gallu arsylwi a mesur buddion eu gwaith caled dros y gaeaf wrth i adar a phryfed ffynnu yn y goedwig.