Plannu coed yn Sir Benfro
Written by Tir Coed / Dydd Iau 15 Chwefror 2018
Mae Tir Coed wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â chontractwyr coedwigaeth lleol yn Sir Benfro i blannu coetir brodorol 1.8 acer.
Roedd y rhywogaethau yn cynnwys derw, coed ceirios, bedw, coed cyll, coed drain gwyn, coed gwern, coed masarn fach a choed afal cranc ac fe cafwyd eu plannu mewn ardaloedd ble roedd conwydd wedi bod yn tyfu ar safle coetir brodorol.
Rydym yn gobeithio bydd y goedwig yn helpu i adfer y llystyfiant naturiol fel clychau'r gog i fuddio bywyd gwyllt a darparu coed i'r cenedlaethau i ddod.
Hoffwn ddiolch i'r tiwtoriaid a'r gwirfoddolwyr a fu'n helpu.