Mae Vic yn ymuno â'r tîm
Written by Tir Coed / Dydd Llun 19 Ebrill 2021
Fy enw i yw Vic a fi yw un o Arweinwyr Gweithgareddau newydd Tir Coed yn Nyffryn Elan. Rwy’n byw ger Rhaeadr yn Nyffryn Gwy.
Beth yw eich diddordebau?
Mae gen i lu o ddiddordebau gan gynnwys crwydro o gwmpas bryniau Canolbarth Cymru yn chwilio am safleoedd hynafol sydd heb eu cofnodi, ail-greu offer ein cyndeidiau a cheisio dysgu sut roedden nhw’n cael eu defnyddio.
Beth sy’n eich cyffroi chi fwyaf am eich rôl newydd?
Rwy’n edrych ymlaen at gael rhannu fy sgiliau a gobeithio ysbrydoli eraill i droi eu llaw at grefftau Treftadaeth rwy’n teimlo y dylid eu cadw’n fyw.
Beth yw eich hoff beth am fod allan yn yr awyr agored?
Rydw i wedi bod wrth fy modd allan yn yr awyr iach erioed. Mae treulio amser yn y coed neu’n cerdded ar hyd y bryniau yn fy helpu i gael rhywfaint o bersbectif ar fywyd bob dydd. Rwy’n hapusach o lawer o gael bod y tu allan am ychydig.
Beth sy’n eich ysbrydoli chi?
Mae natur yn fy ysbrydoli drwy ddysgu pethau newydd, gweld yr haul yn gwenu ar lain o glychau’r gog, pentwr o gerrig hynafol ar fryn neu ddysgu sgiliau ein cyndeidiau.
Beth yw eich hoff dymor o’r flwyddyn?
Rwy’n hoffi bob un, yn enwedig y ffordd y maen nhw’n newid o hyd. Gallech dynnu llun o’r un olygfa bob dydd am flwyddyn gyfan a byddai pob un yn wahanol.
Petaech chi’n goeden, pa goeden fyddech chi a pham?
Byddai’n rhaid i mi ddewis y dderwen, sydd â’i chysgod yn cynnig cynefin ar gyfer mwy o rywogaethau nag unrhyw goeden arall ac am flynyddoedd lawer mae ei phren wedi rhoi bywoliaeth. Roedd yn ganolog i bopeth roeddwn i’n ei wneud.