Ni all Vik aros i ddechrau garddio

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 25 Ionawr 2022

Dywedwch rywbeth bach am eich hun...

Siwmae! Vik ydw i. Rydw i newydd gael fy rhyddhau ymysg y bywyd gwyllt ar ôl amser hir yn gweithio ym maes iechyd cyhoeddus a gwneud gwaith cymunedol, rydw i hefyd yn fân arddwr ac yn fyfyriwr garddwriaeth. Rwy’n gyffrous i ailgysylltu pobl â’r tir a bwyd fel rhan o’r tîm AnTir.

Beth yw eich diddordebau?

Tyfu fy swper fy hun - nid wyf yn llwyddiannus bob tro, ond rydw i bob amser yn mwynhau - rwy’n hoffi bod yng nghwmni pobl da a bywyd gwyllt rhandiroedd Aberystwyth; treulio amser gyda cheffylau ac archwilio cefn gwlad Ceredigion.

Beth sy’n eich cyffroi chi fwyaf am eich rôl newydd?

Mae garddio yn dod yn naturiol i bob un ohonom, does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr - dim ond mynediad at ychydig o dir a bach o help llaw sydd angen arnoch. Rwy’n gallu gwneud hynny i ddigwydd a gweld pobl yn tyfu.

Beth yw eich hoff beth am fod allan yn yr awyr agored?

Y llif. Mae gen i gysylltiad gydag ef ac rwy’n ymgolli’n llwyr ynddo.

Beth sy’n eich ysbrydoli chi?

Mae garddio yn brofiad gydol oes. Mae’n ddiddiwedd a does dim methiant yn perthyn iddo - dim ond profiadau.

Pa un yw eich hoff dymor a pham?

Galla i ddweud bob un ohonyn nhw? Rwy’n caru’r newid a’r rhythm parhaus (dyma pan fyddaf yn teimlo gorbryder hinsawdd fwyaf hefyd) ond efallai diwedd yr haf, ar ôl i’r haul cryf a chlefyd y gwair ddiflannu. Y cynhaeaf.

Pe baech yn goeden, pa goeden fyddech chi a pham?

Draenen wen efallai - rwy’n dyheu am y gwanwyn, rwy’n hapus yn fy nghwmni fy hun neu fel rhan o glawdd cymysg, ac rwy’n groesawgar i fywyd gwyllt.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed