Wythnos 5 o wirfoddoli
Written by Tir Coed / Dydd Mercher 17 Hydref 2018
Yr wythnos hon, roedd nifer fach o'r grŵp yn canolbwyntio ar greu mainc i fynd o amgylch tân ar gyfer ysgol gynradd leol a pharatoi polion a phegiau i gefnogi gorchudd tarpolin.
Bu'r gwirfoddolwyr yn paratoi planciau eistedd a'r cylchoedd log parod i gefnogi, tra bod eraill yn dechrau teneuo'r ardal y tu ôl i'r tŷ crwn, gan dynnu'r hemloc a ffafrio coed collddail brodorol.
Fel bob tro, goruchwyliodd Doris y diwrnod cynhyrchiol a chadarnhaol iawn. Cafodd sesiynau gwirfoddolwyr eu gohirio am yr wythnosau nesaf oherwydd bod y cyfranogwyr yn gwneud gwaith pren a hyfforddiant llif gadwyn felly gwyliwch y gofod hwn am fwy o newyddion a diweddariadau cyn bo hir!