Croeso i Goedwig arall yn Sir Benfro
Written by Tir Coed / Dydd Mercher 26 Medi 2018
Mae cwrs croeso llwyddiannus arall wedi dod i ben yn Sir Benfro. Yn lleoliad unigryw'r Woodland Farm yn Rhos, ymysg y blodau lliwgar a’r aderyn Guinea busneslyd, mwynhaodd y grŵp cyflwyniad ysgafn i waith coedwig o dan lygaid gwyliadwrus ein dau diwtor profiadol Wil ac Eugene.
Y ddau’n newydd i Tir Coed, ffurfiodd Wil ac Eugene dîm gwych a chrëwyd amgylchedd cefnogol ond ymlaciedig yn y cylch o goed derw yng nghanol y ddôl ble cynhaliwyd y cwrs. Wil, sydd â chefndir mewn gwaith coed irlas a rheolaeth coetir oedd yn arwain y cwrs, gan ddysgu’r cyfranogwyr sut i ddefnyddio amryw o offer llaw yn ddiogel. Eugene oedd yn cefnogi sydd yn arbenigwr mewn coedwigaeth, ac roedd y ddeuawd ddeinamig yn gyflwyniad perffaith i’n cyfranogwyr.
Yn ystod y cwrs, fe weithiodd y cyfranogwyr gyda’i gilydd i osod camp gyda tharp yn agos i’r tân o hyd i gadw’r tegell yn ferwedig. Fe wnaethant adeiladu ceffylau naddu bydd yn cael eu defnyddio ar gyrsiau Tir Coed yn y dyfodol, yna cafwyd y cyfle i weithio ar brosiect unigol; dewisodd y rhan fwyaf i wneud stôl deircoes, dewisodd rhai gwneud pastwn cogydd.
“Mae’r cwrs wedi bod yn ysbrydoledig ac wedi agor fy llygaid i bosibiliadau ar gyfer llwybrau i’w ystyried yn y dyfodol. Roedd y ddau diwtor yn ardderchog.”
“[Mae’r tiwtoriaid] wedi creu amgylchedd neis, ymlacedig gyda digon o amser i gysylltu gyda phawb, sy’n rhan o’r profiad hefyd dw i’n teimlo, ymlacio yn y goedwig, yn ôl i natur.”
Mae’r rhan fwyaf o bobl ar y cwrs yn symud ymlaen i’r cwrs achrededig 12 wythnos mewn Rheoli Coetir yn Gynaliadwy ble fyddant yn datblygu’r profiad a’r sgiliau y maent wedi dysgu hyd yn hyn.

Bydd ein cwrs Croeso i’r Goedwig nesaf yn dod cyn bo hir ac yn cychwyn ym mis Tachwedd. Os hoffech chi fod yn rhan ohono, cysylltwch â Nancy, Mentor Sir Benfro ar [email protected].