Croeso i ein swyddog Hyfforddi ac Achrediad newydd!
Written by Tir Coed / Dydd Mercher 09 Ionawr 2019
Helo, fy enw i yw Anna ac rydw i yn hapus iawn i fod yn ymuno Tir Coed mewn rôl newydd fel swyddog Hyfforddi ac Achrediad! Byddwn yn helpu Angie a Linda i sicrhau fod y broses achredu yn llyfn trwy wneud yn siŵr bod holl waith caled cyfranogwyr a'u tiwtoriaid yn cael eu talu, drwy ddarparu unedau strwythuredig clir a thrwy ddarparu ardystiadau, ymhlith llawer o bethau eraill!
Mae gen i gefndir mewn dysgu, (Saesneg fel ail iaith, Thai a sgiliau astudio academaidd) ac rydw i wedi gweithio mewn llawer o lefydd gwahanol cyn setlo ar y wyrdd gwyllt o Aberystwyth. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn cynaladwyedd amgylcheddol, a magwyd gyda phwysigrwydd coed a defnyddio’r wybodaeth allweddol yn fy natblygiad. Mae’r diolch yn mynd i fy nhad sy'n wyddonydd coed ac sy'n rhedeg melin llif. Mae gweithio gyda choed yn rhedeg yn y teulu yn ôl yn ôl i'm Taid fy Nhaid a fu'n gweithio yn y goedwig gyda'u ceffylau yn Latfia.
Hefyd, rydw i wedi gweithio i’r cwmni nid-am-elw ‘A Greener Festival’ fel archwilydd amgylcheddol. Oedd rôl hyn yn allweddol i sicrhau fod gwyliau bach a mawr fel Glastonbury yn gallu fod yn llawer mwy cyfeillgar i’r amgylchedd ac i ddeall sut maen nhw’n effeithio'r tir a’r amgylchedd o’i chwmpas.
Yn fyr, rydw i’n caru’r blaned a phobl ac rydw i eisiau gweithio i sicrhau fod pobl yn gallu gweithio yn agos i'w amgylchedd, ac mae’r step gyntaf i neud hyn yw dechrau yn lleol. Diolch yn fawr iawn!