Cwrs Garddio Bywyd Gwyllt ar Daith

Written by Tir Coed / Dydd Llun 20 Mehefin 2022

Bu cyfranogwyr ar gwrs Garddio Bywyd Gwyllt Tir Coed yn mwynhau ymweliad ysbrydoledig i rai gerddi cymunedol lleol yn ddiweddar ac roeddent yn falch iawn i groesawu Swyddog Sgyrsiau Hwb Penparcau ac un o’u gwirfoddolwyr a werthfawrogir yn fawr.

Yng Ngerddi Cymunedol Borth, cawsom ein tywys trwy’r rhandiroedd lle’r oedd y tapestri o leiniau yn arddangos sgiliau a phersonoliaeth pob garddwr. Roedd rhai o’r lleiniau’n ofodau tyfu bwyd mwy ffurfiol a threfnus, tra bod eraill yn fwy tebyg i erddi preifat a bwffes peillwyr.


Ar hyd y safle, roedd ein cyfranogwyr wedi bod yn sgorio nodweddion sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt, yn unol â’r hyn y maent wedi bod yn ei ddysgu ar y rhaglen 10 wythnos. Mewn ardaloedd lle na ddylid torri gwair, gwnaethom glywed sioncod y gwair a llyffaint y gwair coch a rhai gyda smotiau duon. Gwnaethom basio cychod gwenyn ac ieir yn y berllan ac roedd y safle yn llawn buchod coch cwta, un o ffrindiau’r garddwr, gyda’u harchwaeth am bryfed gleision. Datgelodd ardaloedd o wair byr flodau gwyllt corraidd megis pig yr aran tra bod ardaloedd eraill wedi rhoi cyfleoedd i bobl a bywyd gwyllt i fforio am fwydydd sydd wedi’u hunan-hadu gan gynnwys mintys, ffenigl a dail mwyar duon – sy’n ddelfrydol ar gyfer paned o de yn ôl ger y Sied Ddŵr, man cymunedol wedi’i ddylunio i gynaeafu glaw er mwyn cyflenwi’r safle. Cytunodd y grŵp bod y safle’n darparu llu o gynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt a pheillwyr, er gan fod bob amser mwy y gellir ei wneud, gall prosiectau ar gyfer y dyfodol gynnwys blychau gwenoliaid du ac ystlumod yn ogystal â gwesty draenogod. 

Ar ôl picnic byr aethom draw i Erddi Cymunedol Penglais i gwrdd â Jade Phillips o Garden Organic, sydd wedi’i swatio ynghudd ger Canolfan Celfyddydau Aberystwyth. Dywedodd Jade wrthym fod y safle hwn, sy’n llawer llai o faint, yn cynhyrchu mwy o fwyd nag y gallant ei ddefnyddio a gall unrhyw un alw heibio a dewis o beth bynnag sy’n barod. Mae perth mafon a chyrens duon yn cynhyrchu llu o fwyar yn yr Hydref ar gyfer adar ac unrhyw un llwglyd sy’n mynd heibio. Roedd rhai gwelyau yn ymylog tra bod eraill yn gymysg gyda’r gwair. Mae twnnel polythen yn ymestyn y tymor ac mae ardal ddecin yn rhoi lle i ymlacio. Mae’r grŵp cadwraeth lleol yn gofalu am y 2 wely er mwyn annog bywyd gwyllt a gwnaethom drafod syniadau i rwystro unrhyw gwningod ysbeiliol megis barcudiaid a chadnoaid robotig! Wrth bori trwy’r gwelyau gwnaethom drafod swyddogaethau gwahanol cennin syfi – maen nhw’n wych ar gyfer peillwyr, mae’n hawdd gofalu amdanynt ac yn flasus iawn mewn saladau a bwydydd sawrus. Amlapiwch flodyn mewn deilen suran a chewch chi fyrbryd ffres.


Yn olaf, ar ôl diwrnod poeth aethom i weld Nick Howells o Laudato Si gyferbyn ag Eglwys y Merthyron Cymreig y tu ôl i hwb Penparcau. Penderfynodd Nick dyfu bwyd tair blynedd yn ôl a gyda chymorth sawl pâr o ddwylo, mae ganddo 2 dwnnel polythen a drysfa drefnus o lwybrau a gwelyau wedi eu codi. Mae Tyfu Dyfi bellach wedi cefnogi Nick a’i wirfoddolwyr trwy roi cyllid iddynt i ymestyn eu gweithgareddau. Er nad oedd ganddo unrhyw brofiad wrth ddechrau’r prosiect am y tro cyntaf, mae nawr wedi addysgu ei hun sut i dyfu bwyd sydd yna’n cael ei ddosbarthu gan yr eglwys.


Mae tîm Penparcau’n mynd â’r holl ysbrydoliaeth hyn yn ôl i’r hwb gyda nhw lle maent yn gobeithio datblygu safle tyfu cymunedol ffrwythlon. Mae llawer o gyfleoedd i wirfoddoli neu ganfod gofod tyfu awyr agored o amgylch Gogledd Ceredigion. Aeth rhai o gyfranogwyr y cwrs Garddio Bywyd Gwyllt â’u sgiliau yn ôl i Erddi Tyllwyd yn Llanfarian, wrth i unigolyn arall gofrestru ar gyfer llain rhandir yn Borth. Os hoffech chi glywed am gyfleoedd i ddechrau tyfu gyda phobl eraill, cysylltwch â ni ar [email protected]

Bydd Sesiynau Gwirfoddoli yng Ngerddi Tyllwyd yn cael eu cynnal o 10-3 ar ddydd Iau

Bydd sesiynau Gerddi Cymunedol Borth yn cael eu cynnal o 11am-1pm ar ddydd Iau

Mae Gerddi Laudato Si yn cynnal sesiynau garddio ar ddydd Mercher ac ar ddydd Sadwrn o 1pm

I gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli yng Ngerddi Penglais, ymunwch â’u rhestr bostio yma: https://aberystwyth.wixsite.com/welsh

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed