Merched yn y Coed
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 23 Ionawr 2024
Ers awr gyntaf y diwrnod cyntaf mae yna egni arbennig wedi bod yn y tŷ crwn yng Nghoedwig Scolton dros y pum dydd Llun diwethaf. Dan arweiniad dau hwylusydd arbennig iawn, daeth deg menyw o bob rhan o Sir Benfro at ei gilydd i ddysgu sgiliau newydd a chysylltu â’r coetir a’i gilydd.
Cyfarfu’r Tiwtoriaid Llawrydd, Maia Sparrow (Aderyn) a Tracey Styles (Cornerwood) wythnosau cyn i’r cwrs ddechrau i gynllunio rhaglen feddylgar a chydgysylltiedig o weithgareddau yn ofalus i weddu i bobl o unrhyw lefel o brofiad. Roedd llawer o’r ymarferion yn cynnig cyfle i’r grŵp ddysgu gan ei gilydd ac roedd pob un yn eu hannog i weld, clywed, teimlo, arogli a hyd yn oed blasu byd natur mewn ffordd newydd.
Wrth ymweld â'u gwersyll ar y diwrnod olaf, dros bakoras coetir a chacen pen-blwydd, roedd y llawenydd yn amlwg a doedd neb eisiau mynd adref. Dywedodd un cyfranogwr “Creodd arweinwyr y cwrs ofod cefnogol iawn i fwynhau archwilio gweithgareddau natur a rhannu a gwrando, gan greu cysylltiadau fel grŵp o fenywod. Dywedodd yr holl gyfranogwyr yn eu hadborth y byddai’n dda ganddynt pe bai’r cwrs wedi bod yn hirach ac, ers y cwrs, maent wedi sefydlu eu cyfarfodydd rheolaidd eu hunain mewn mannau naturiol ledled Sir Benfro.