Menywod yn y Goedwig - Anna Prytherch
Written by Tir Coed / Dydd Iau 07 Mawrth 2019
Pa llwybr gyrfa ydych chi wedi dilyn?
Mae gen i radd yn fusnes o Brifysgol Aberystwyth ac yna MBA hefyd. Nawr rydw i ar fin gorffen PHD (Rhwydweithio / Trosglwyddo Gwybodaeth), gydag ystod o gyrsiau a chymwysterau eraill a gyflawnwyd yn y blynyddoedd interim, gan gynnwys achrediad PRINCE2 mewn Rheoli Prosiectau. Rydw I wedi gweithio mewn swyddi rheolaeth uwch ar draws Cymru dros y 25 mlynedd diwethaf - yn cynnwys hefyd yn sefydlu fy nghwmni fy hun a restrwyd fel un o gwmnïau Top 100 Cymru yn 2006. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel Rheolwr Prosiect ar gyfer Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, sydd wedi’i ariannu gan bedwar bwrdd iechyd.
Beth sydd wedi bod yn rhwystr i chi yn eich gyrfa fel menyw a sut wnaethoch chi oresgyn hyn?
Yn fam sy’n gweithio, roedd gofal plant bob tro yn broblem pna odd y plant yn ifanc, yn enwedig pan o’n nhw’n sâl yn annisgwyl. Dw i hefyd yn meddwl o fewn byd Busnes, mae rhagfarn rhywedd yn dal i fodoli ar lefel ystafell fwrdd/uwch o Reolaeth.
Beth wnaeth ysbridoli chi I fod yn rhan o Tir coed?
Fe wnes i gweithio mewn swydd Prif Weithredwr mewn Elusen am 11 mlynedd ac roeddwn yn gyfarwydd â'r Gyfraith Elusennau a'r gofynion ar gyfer Elusen i fodoli am "fudd cyhoedd", sef rhywbeth yr wyf yn ei gefnogi a'i edmygu. Yn y sector iechyd, mae cydnabyddiaeth o'r manteision lles sy'n deillio o'n hamgylchedd naturiol yn cynyddu ac mae hyn yn rhywbeth roeddwn yn ei argymell a'i gefnogi yn fy rôl i wella, gan fod hefyd yn rhan o'r Rhwydwaith Iechyd Gwyrdd Ymarfer yng Nghanolbarth Cymru. . Pan ofynnwyd i fi a fyddwn i’n ystyried fod yn Ymddiriedolwr i Tir Coed, adolygais ei amcanion a theimlais yn unol â’r rhain a theimlais hefyd bod gen i rywbeth i’w gyfrannu fel Ymddiriedolwr i’r gwaith yr oeddwn i’n ei wneud oherwydd fy mhrofiad o weithio i elusen a hefyd y cysylltiad iechyd/lles.
“If you are always trying to be normal, you will never know how amazing you can be” – Maya Angelou