Menywod yn y Goedwig - Cath Rigler

Written by Tir Coed / Dydd Gwener 08 Mawrth 2019


Clywais i am Tir Coed gyntaf pan o’n i’n gweithio ar brosiect ieuenctid awyr agored ger Machynlleth. Ar y pryd, roedd y rhan fwyaf o’m gwaith â ffocws ar bobl - gweithgareddau, helpu pobl i fwynhau a buddio o ddysgu sgiliau, chwarae, archwilio a/neu jest bod yn yr awyr agored. Teimlais gysylltiad syth gyda ffocws cyfartal Tir Coed ar y goedwig eu hun - nid yn unig y manteision mae coedwigoedd yn eu rhoi i bobl, ond hefyd y manteision mae pobl yn eu rhoi i’r goedwig.

Roedd hyn hefyd yn cyd-fynd â'r rheolaeth coetiroedd ymarferol yr oeddwn i'n ymarfer fy hun - yn bennaf yn wirfoddol - fy mhrofiad fy hun o lawenydd gwaith coetiroedd! - a gyda'm ffocws fy hun ar ddysgu 'ystyrlon' o fewn sesiynau rwy'n hwyluso.

Mae’n bleser o’r mwyaf cael fy nhalu am wneud y math hwn o waith! Ac i weld mwy a mwy o ferched yn rhan ohono, yn hyfforddi i weithio yn y goedwig fel coedwigwyr a choedwigwyr cymdeithasol - unrhyw le ar sbectrwm “coedwigoedd i bobl i goedwigoedd”. Hefyd, dw i wedi clywed nifer o goedwigwyr gwrywaidd, sydd wedi gweithio yn y sector ers blynyddoedd, yn dweud pethau fel: “Os nad ydw i’n nabod y person yna’n barod, se well da fi weithio gyda merch, dyn nhw ddim yn dibynnu ar gyhyrau cymaint ag yn aml mae’r dechneg yn well ac meant y defnyddio’u pennau’n fwy”. . . Mae’n broses o ddysgu i bawb, ac yn siwrnai gadarnhaol mae pawb arni!


Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed