Menywod yn y Goedwig - Cath Seymour
Written by Tir Coed / Dydd Gwener 08 Mawrth 2019
Cath yw’r cydlynydd Ceredigion i Tir Coed, efo cefndir mewn gwaith efo’r ieuenctid a thyfu bwyd. Mae gan Cath BSc mewn Ffarmio organig ac mae ganddi brofiad dwfn o weithio mewn lleoliad ymarferol gydag oedolion a phobl ifanc dan anfantais yn y sector elusennol. Hefyd, mae ganddi dros 20 mlynedd profiad o redeg daliad bach sy'n gwerthu llysiau ac wyau organig.
Y tro cyntaf wnaeth Cath clywed am Tir Coed oedd pryd oedd hi’n gweithio i’r Prince’s Trust, ac ers hynny mae hi erioed wedi gweithio i’r elusen ac mewn Tachwedd 2016, wnaeth ei breuddwyd dod yn fyw!
Ers dechrau efo Tir Coed, mae Cath wedi bod cael ysbrodoli i drio crefftau pren traddodiadol, diolch i’r gwaith gwych oedd hi’n weld o’n hyfforddeion a'n tiwtoriaid!
Dechreuais i gyda chreu cyllell fenyn, a wedyn llwy, a wedyn ges I’r cyfle I roi cynnig ar y polyn turn a dyna ni, dod dim troi nôl. Mae crefftio coed irlas yn amsugno ac yn gaethiwus. Do’n I byth yn meddwl fy mod I’n greadigol ond drwy fenthyg syniadau bobl eraill a’u creu’n unigryw, bodloni rhoi cynnig arni a dysgu o fy nghamgymeriadau rwyf wedi dechru bod yn filch o’r hyn dw I’n eu gwneud. . . mae rhwybeth am ddilyn y graen a natur y goed sy’n reddfol ac yn foddhaol iawn.