Women in the Woods - Jenny Dingle
Written by Tir Coed / Dydd Gwener 08 Mawrth 2019
Dw i wedi bod yn gweithio ym myd addysg awyr agored ers dros 35 mlynedd mwyach.
Ambell waith pan dw i yn y goedwig yn y glaw trwm, wedi blino ar ôl bod ar fy nhraed ers pump o’r gloch yn paratoi ar gyfer sesiwn, yn teimlo bach yn hen efallai, dw i’n meddwl a ddylwn i ‘setlo lawr’ a chael swydd naw tan bump tu fewn. . . ond meddwl ffug yn unig yw hyn achos y coed a’r mynyddoedd sy’n rhoi ymdeimlad o berthyn i mi ac mae rhannu fy ‘nghartref’ gyda grwpiau dw i’n gweithio gyda nhw sy’n dod a llawenydd i mi ac mae’n teimlo fel peth da i’w wneud.
Dw i’n teimlo’n angerddol y dylai pawb gael y cyfle i dreulio amser yn yr awyr agored yn y gwyllt neu mewn ardaloedd gwledig. Rwy’ o bryd i’w gilydd yn gweithio gyda phlant sydd erioed wedi bod mewn coedwig ac maen nhw ofn.
Mae grwpiau Tir Coed dw i’n gweithio gyda nhw’n brysur yn y goedwig, yn casglu, defnyddio’r hyn meant wedi dod o hyd iddynt, dysgu beth yw beth . . . Dw i’n meddwl bod hyn yn annog yr ymdeimlad o fod yn bresennol ac y mae’n addas i nifer o bobl, yn enwedig pobl ifanc.
Byddwn i’n annog merched eraill if od yn rhan o’r sector goedwigaeth. Mae’r goedwig yn le da i weithio. Mae’r sgiliau yn y gwaith hyn yn wobrwyol i’w dysgu. Mae’r cynyrch yn beth da . . . planciau o goed wedi’i tyf’n lleol, celfi maes chwarae, brysglywni wedi’u rheoli’n dda, llwybr gwell i le arbennig, grŵp o blant cyffrous, uwchraddedig a llawer mwy