Cwrs Coedwigaeth Ceredigion - Bron wedi cwblhau!
Written by Tir Coed / Dydd Mercher 24 Gorffennaf 2019
Dros yr 8 wythnos diwethaf, mae’r hyfforddeion wedi bod yn pilio a pharatoi coed i greu rhan o ffens postyn a chledren draddodiadol. Maen nhw wedi dysgu technegau ac wedi cael cyngor defnyddiol gan ein tiwtoriaid. Maent wedi datblygu set ddefnyddiol o sgiliau newydd wrth lunio a pharatoi prennau gydag offer llaw; trwy hollti onnen ar gyfer rheiliau a gwneud uniadau mortais a degon yn y pyst.
Maent wedi dysgu'r technegau traddodiadol o ruddo coed i ehangu ei hirhoedledd yn y ddaear wedi gwneud y swydd yn unigol trwy gerfio a chrefft topiau pwrpasol i bob post unigol i greu darn hardd ac unigryw o ffensys.
Dyma ran gyntaf eu cwrs achrededig, yn ystod yr wythnosau nesaf bydd yr hyfforddeion yn creu ac adeiladu rhai meinciau picnic i'w gosod ar y safle er mwyn i'r cyhoedd eu defnyddio i wella hygyrchedd a gwella eu profiad o'r coed.